“Cyflwynwch drwyddedau gwaith Cymreig i amddiffyn staff y Gwasanaeth Iechyd” – Rhun ap Iorwerth

Bydd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun Ap Iorwerth heddiw yn amlinellu rhesymau pam y dylai fod gan Gymru y grym i roi trwyddedau gwaith i bobl sy’n dod i weithio i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Cyn arwain dadl yn y Cynulliad, soniodd Plaid Cymru am bryderon cynyddol ymysg gweithwyr yr NHS fod rhethreg wenwynig y DG tuag at staff a anwyd dramor yn tanseilio ysbryd pobl, yn rhwystro ymdrechion i recriwtio i swyddi sy’n anodd eu llenwi, ac yn peryglu gallu’r GIG i gyflwyno gwasanaethau diogel. Dadl y blaid felly yw ei bod yn hanfodol i Lywodraeth Cymru gael y pŵer i allu rhoi trwyddedau gwaith i staff sydd â’r cymwysterau priodol i weithio yng Nghymru yn y Gwasanaeth Iechyd

Gan Gymru y mae un o’r cymarebau isaf o feddygon i’r boblogaeth yn Ewrop, er bod gan y boblogaeth anghenion iechyd sylweddol. Ar hyn o bryd, cafodd ychydig dan draean o’r holl feddygon sy’n gweithio yng Nghymru eu hyfforddi dramor, a hebddynt hwy, byddai’r gwasanaethau yn chwalu.

Ofn Plaid Cymru yw na fyddai’r heriau penodol sy’n wynebu Cymru, gan gynnwys natur wledig llawer o’r wlad, yn cael eu hateb yn ddigonol petai llywodraeth y DG yn gwneud yr holl benderfyniadau am y gweithlu sydd ei angen yn rhannau eraill y DG. Mae felly yn galw am i’r penderfyniadau gael eu gwneud yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun Ap Iorwerth:

“Bu Plaid Cymru ers amser yn cefnogi ehangu ein gallu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon cynhenid Cymreig fel y gallwn sicrhau’r Gwasanaeth Iechyd i bawb. Ond mae’n cymryd o leiaf 10 mlynedd i hyfforddi meddyg. Mae’r Gwasanaeth Iechyd wastad wedi recriwtio meddygon o wledydd eraill i lenwi ein rotas, ac ar hyn o bryd, byddai’r gwasanaeth yn dymchwel yn llwyr hebddynt.

“Os na allwn ganiatáu i feddygon o dramor lenwi swyddi gwag yn yr NHS, sy’n debygol os gadawn i’r Torïaid benderfynu pwy gaiff weithio yng Nghymru, y cleifion fydd yn dioddef.

“Fyddwn ni ddim yn cael meddygon newydd yn lle’r rhai sy’n ymddeol, fydd swyddi gwag ddim yn cael eu llenwi, a bydd ansawdd ein haddysg feddygol yn dioddef am na all y darlithwyr gorau weithio yn ein hysgolion meddygol.

“Y canlyniad fydd llai o adrannau brys, rhestrau aros hwy, a llawer o ardaloedd yn cael eu hamddifadu o feddygfeydd meddygon teulu.

“Y cyfan yr ydym yn gofyn amdano yw i Lywodraeth Cymru allu cynllunio ar gyfer anghenion Gwasanaeth Iechyd Cymru yn y dyfodol mewn ffordd iawn, trwy feddu ar y gallu i roi trwyddedau gwaith i feddygon ac aelodau eraill staff yr NHS pan fo gwasanaeth mewn perygl oherwydd prinder staff.

“Byddai’n naïf ac anghyfrifol gadael dyfodol ein gwasanaeth iechyd yn nwylo llywodraeth y DG sy’n rhoi ideoleg o flaen anghenion y bobl.”