Galw am “gynllun tymor hir ôl Covid” wrth i restrau aros gyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru – unwaith eto

Galw am “gynllun tymor hir ôl Covid” wrth i restrau aros gyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru – unwaith eto

Wrth ymateb i ystadegau newydd sy’n dangos bod niferoedd ar restrau aros am driniaeth ysbyty nad yw’n frys yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed, dywedodd llefarydd ar ran iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

 

“Mae’r ystadegau hyn yn paentio darlun llwm ac yn datgelu pa mor eiddil yw ein GIG nawr.

 

“Roedd ein GIG eisoes yn dioddef o danfuddsoddi a chamreoli cyn y pandemig. Nawr, mae byrddau iechyd a staff iechyd a gofal ledled Cymru yn gwegian o dan bwysau ychwanegol a achosir gan Covid.

 

“Mae targedau’n parhau i gael eu methu. Erbyn hyn, amseroedd aros yw’r gwaethaf y buont erioed. Ac y tu ôl i’r ffigurau hyn mae pobl go iawn – cleifion – mewn poen neu o dan straen annioddefol yn aros yn rhy hir am driniaeth neu ddiagnosis.

 

“Er bod croeso i unrhyw arian ychwanegol, ychydig iawn o eglurder sydd ar sut y bydd y £ 551m yn cael ei ddefnyddio. A law yn llaw ag unrhyw gynllun tymor byr i ddelio â’r sefyllfa sy’n datblygu wrth inni fynd i’r gaeaf, mae angen i ni weld gan y Llywodraeth gynllun ôl-Covid tymor hir i fynd i’r afael ag amseroedd aros hir, blaenoriaethu gwasanaethau fel diagnostig a thriniaeth canser, a mynd ati i fuddsoddi yn ein GIG gyda’r arloesedd sydd ei angen.

 

“Ni allwn gael ein dal mewn cylch diddiwedd lle mae amseroedd aros yn gwaethygu a’r unig ateb y gall y Llywodraeth feddwl amdano yw darparu atebion tymor byr nad ydynt yn newid fawr ddim yn y tymor hir.

 

“Mae arnom ni ddyled i weithwyr iechyd a gofal i leddfu’r pwysau, eu had-dalu am eu hymrwymiad yn ein hawr o angen, a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud yr hyn maen nhw wedi’i hyfforddi i’w wneud.