“Gyda thryloywder y daw ymddiriedaeth” – ailadrodd galwadau am i ffigurau cyflenwi brechlyn gael eu gwneud yn gyhoeddus

“Gyda thryloywder y daw ymddiriedaeth” – Rhun ap Iorwerth yn ailadrodd galwadau am i ffigurau cyflenwi brechlyn gael eu gwneud yn gyhoeddus

Wrth ymateb i gwestiynau a godwyd ynghylch cyflenwi brechlynnau i Gymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae tryloywder yn allweddol wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae pawb sy’n ymwneud â rhoi’r brechlyn wedi gwneud gwaith gwych yn brechu 20% o boblogaeth Cymru, ond mae angen i ni weld llif y brechlynnau i bedair gwlad y DU, er mwyn bod yn hyderus ein bod yn cael ein cyfran deg.

“Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro am y data ar faint o bob brechiad sy’n cael ei ddosbarthu i bob gwlad, yn ysbryd tryloywder. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi nodi ei fod yn cytuno, felly’r cwestiwn yw – pryd fydd y data hwn ar gael i’r cyhoedd, fel y gall pob un ohonom fod yn hyderus bod y dosbarthiad mor agored a theg â phosibl? ”