Gwirfoddolwyr Blood Bikes o’r gogledd yn dod i’r Senedd

Daeth gwirfoddolwyr Blood Bikes i’r Cynulliad yr ywthnos hon i roi’r cyfle i ACau ddysgu mwy am y gwaith ffantastig mae nhw’n ei wneud yng Nghymru.

Mae Blood Bikes Wales yn elusen gyda dros 300 o wirfoddolwyr ac 16 motobeic sydd yn gweithio ledled Cymru pob dydd o’r flwyddyn.

Mae’r elusen yn darparu gwasanaeth allan o oriau proffesiynol ac am ddim i gefnogi’r GIG yng Nghymeu, gyda gwasanaeth interim o fewn oriau, yn trosglwyddo cyflenwadau a all achub bywydau i’r rhai sydd mewn angen brys o driniaeth ar draws Cymru.

Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Roedd hi’n wych cael helpu i lansio’r gwasanaeth Blood Bikes yn y gogledd orllewin yn ddiweddar, ac yn grêt gwel cynrychiolwyr o’r gogledd yn dod i hyrwyddo’r gwasanaeth ledled Cymru yn y Cynulliad. Mae’r gwasanaeth yma yn andros o werthfawr i gleifion ac i’r NHS ac mae’n mynd o nerth i nerth.”