“Gweithiwch gyda ni i daclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Ynys Môn” medd Rhun ap Iorweth AC

Mae’r cyhoedd a chynrychiolwyr o bob sector gwaith yn cael eu hannog i fynychu digwyddiad a fydd yn amlygu, yn trafod heriau ac yn chwilio am atebion i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Ynys Môn.

Mae’r AC lleol, Rhun ap Iorwerth yn trefnu’r ddadl yng ngoleuni ffigyrau sy’n dangos mai Ynys Môn sydd â un o’r blychau cyflog uchaf rhwng y rhywiau yng Nghymru, sef 17.8%. Mae hyn yn ganran sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a menywod yn ôl yr awr.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i edrych ar a cheisio deall pam nad yw menywod yn gwneud cynnydd yn yr un ffordd ag y mae dynion, â’u sgiliau a’u potensial yn cael eu tanddefnyddio yn aml. Bydd hefyd yn edrych ar y camau y mae’n rhaid eu cymryd i sicrhau bod menywod yn gallu cael gafael ar, ac hyrwyddo mewn, gwaith teg gyda chyflog gweddus.

Yn digwydd rhwng 6.30pm-8.00pm, Dydd Iau 14 Tachwedd yn M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Menai, Gaerwen, dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad gofrestru drwy’r wefan ‘Eventbrite’.

Yn ymuno â Rhun ar y panel bydd Helen Antoniazzi, o Chwarae Teg – elusen cydraddoldeb rhywiol blaenllaw Cymru, Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Aled Jones-Griffith, Pennaeth, Grwp Llandrillo Menai a Llinos Davies, Arolygydd Heddlu Ardal Ynys Môn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae ychydig dros gan mlynedd ers i ferched gael yr hawl i bleidleisio yn y DU – ond rhaid i ni gydnabod bod cryn dipyn i’w wneud eto i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anghydraddoldeb cynrychiolaeth rhwng dynion a merched.

“Mae ffigurau amodol diweddar a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai 14.5% yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfartaledd yng Nghymru, a bod y bwlch wedi cynyddu 1% dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n dangos ymhellach yr angen am weithredu cadarn i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn.

“Yn Ynys Môn, er enghraifft, mae’r bwlch o 17.8% yn enfawr. Rwy’n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad pwysig hwn yn M-Sparc ddydd Iau, Tachwedd 14eg, ochr yn ochr â Chwarae Teg, sy’n gwneud gwaith yn y maes hwn, i drafod y sefyllfa yma ymhellach a sefydlu set o gamau i fynd i’r afael â’r broblem hon. ”

Dywedodd Helen Antoniazzi, Chwarae Teg: “Gobeithiaf y bydd y digwyddiad hwn yn arwain at wir ddealltwriaeth o’r rheswm pam mae menywod yn Ynys Môn yn ennill cymaint yn llai na dynion ac nad ydynt yn gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd yn yr un modd, fel y gellir cymryd camau priodol ac effeithiol i fynd i’r afael â’r broblem a’i ddatrys.

“Yn Chwarae Teg rydym yn cefnogi cyflogwyr i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gweithleoedd. Yn wir, gall sefydliadau elwa’n aruthrol o ran mwy o gynhyrchiant, cadw staff a llai o absenoldeb salwch, ar ôl gweithredu mesurau cymharol syml sy’n galluogi gweithwyr benywaidd i ffynnu.

“Mae ein hymchwil yn dangos y gallai cyflawni cydraddoldeb rhywiol ychwanegu bron i £14biliwn i economi Cymru, felly nid yn unig yw hyn hi’n ‘neis i gael’, mae’n ‘rhaid-cael’ yn economaidd.”