Gohirio cyflwyno gwasanaeth 111 yng Ngogledd Cymru tan 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mewn ymateb i gwestiwn gan Rhun ap Iorwerth MS na fydd rhif 111 di-argyfwng y GIG yn cael ei gyflwyno yng ngogledd Cymru tan 2022, flwyddyn yn hwyrach na’r disgwyl.

Roedd ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o hyd yn mynd i fod ymhlith yr ardaloedd olaf i 111 gael ei gyflwyno – mae wedi digwydd fesul cam ledled Cymru – nawr mae’r oedi’n golygu bod cleifion yn y gogledd yn cael eu siomi.

Mae cleifion yn y gogledd wedi gallu ffonio 111 i drafod materion Covid-19, er y bu adroddiadau o anawsterau wrth fynd drwodd, ond mae gohirio’r gwasanaeth llawn ymhellach yn golygu costau ychwanegol a gwasanaeth israddol i gleifion yn y gogledd am flwyddyn arall.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Byddai’r gwasanaeth hwn bob amser yn cael ei gyflwyno fesul cam ond mae’n annerbyniol aros blwyddyn arall yn y gogledd. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol, ond bydd yn rhaid i gleifion yng ngogledd Cymru barhau i dalu am alwadau i NHS Direct i ofyn am gyngor meddygol di-argyfwng.”