Gallai’r HS2 gostio £750m i Gymru, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Heddiw, holodd Rhun ap Iorwerth, Llefarydd Cysgodol dros yr Economi a Chyllid Plaid Cymru gyfraniad y Llywodraeth o £100bn tuag at brosiect yr HS2, gyda’r posibilrwydd y bydd Cymru yn colli oddeutu £750m dros gyfnod y prosiect.

Mae datblygiad rheilffordd yr HS2 wedi ei ddynodi fel prosiect Cymru a Lloegr, er nad oes un filltir o’r llwybr arfaethedig yn croesi i mewn i Gymru, ond byddai ei ddynodiad yn golygu byddai Cymru yn colli cyllid hanfodol fel rhan o Fformiwla Barnett, sef arian mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn ei dderbyn.

Petai’r Cynllun yn cael ei glustnodi fel un ar gyfer Lloegr yn unig, byddai Cymru yn derbyn oddeutu £50m y flwyddyn o gyllid canlyniadol yn sgil Fformiwla Barnett, ac yn un o’i gwestiynau cyntaf i Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Ken Skates, ers i Rhun ap Iorwerth gael ei benodi yn Llefarydd Cysgodol dros yr Economi a Chyllid Plaid Cymru pwysodd ar y Llywodraeth am y mater.

Dywedodd AC Ynys Môn:

“Mae rheilffordd yr HS2 wedi ei ddynodi fel prosiect Lloegr a Chymru, er nad oes milltir ohoni yng Nghymru, a byddai’n gallu costio hyd at £750m i Gymru. Heddiw, holais Llywodraeth Cymru beth maen nhw’n ei wneud i ofalu bod Cymru yn derbyn y mwyaf posibl allan o’r Barnett, gan fod yr Alban a Gogledd Iwerddon YN ei dderbyn.

“Er mwyn rhoi syniad o faint y gost yr ydym yn ei drafod yma, rhagwelir cost o £8.25bn am y 6.6. milltir gyntaf allan i’r gogledd o Lundain – mae hynny’n £1.25bn y filltir. Gallech ariannu ail-agor y llinell Caerfyrddin i Aberystwyth, trydanu’r llinell rhwng Caerdydd ac Abertawe ac ail-agor llinell Amlwch i Gaerwen ar Ynys Môn am yr un gost ag un filltir o’r HS2 yn Llundain.

“Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi cefnogi’r prosiect yn y gorffennol, onid yw hi’n hen bryd i’r llywodraeth newid ei feddwl a dadlau yn erbyn prosiect yr HS2 ar y sail ei fod yn mynd yn erbyn buddiannau Cymru”