Mae ymgeisydd arweinyddol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC wedi lansio ei fideo ymgyrch swyddogol yr wythnos hon, sy’n amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y blaid a Chymru a sut y byddai’n arwain y genedl yn ei blaen pe bai’n cael ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru.
Yn y fideo, mae Mr ap Iorwerth yn siarad am sut y byddai’n edrych at adeiladu’r genedl, a gwneud Plaid Cymru yn gartref naturiol i’r rhai sydd eisiau datblygu Cymru i fod yn genedl annibynnol.
Dywed Mr ap Iorwerth:
“Mae ras arweinyddol Plaid yn ymwneud â Chymru, a dyfodol ein gwlad. Rydw i’n sefyll gan fy mod yn gwybod fod Cymru a’i phobl yn cael eu dal yn ôl rhag cyrraedd eu potensial, a rydw i am rannu ac arwain gweledigaeth newydd am be all Cymru fod.
“Rydw i eisiau bod yn arweinydd Plaid Cymru er mwyn cael y maen i’r wal a dechrau’r broses o adeiladu Cymru. Rydw i eisiau i bawb sydd eisiau canolbwyntio ar y rhaglen yna i adeiladu cenedl i deimlo fod ganddynt gartref ym Mhlaid Cymru. Eich plaid chi ydym ni, beth bynnag eich cefndir, o ble bynnag yr ydych yn dod, os cawsoch eich geni a’ch magu yng Nghymru neu eich bod wedi symud yma ddoe.
“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen, dim yn ôl, a bod yn glir am yr hyn y gallwn fod. GALL Cymru. Yr unig beth sy’n rhaid i ni wneud ydy dechrau credu hynny. Mae Plaid Cyru’n credu hynny. Dwi’n credu hynny. Ond mae’n rhaid i ni allu cyfathrenu’r weledigaeth yna, ac mae ar y wlad angen arweinyddiaeth.
“Dwi’n sefyll i fod yn arweinydd Plaid Cymru am fy mod eisiau arain Cymru tuag at ddyfodol mwy teg, ffyniannus a chyffroes, felly plis, cefnogwch fy ymgyrch a gadewch i ni rannu’r stori o beth all Cymru fod.”
Gellir gwylio’r fideo ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=ahgiWcbMGEY&t=48s neu ar dudalennau facebook a twitter Rhun.