Ar ôl ymweld â’i feddyg teulu lleol am ei frechlyn ffliw, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn annog ei etholwyr i fynd i gael eu pigiadau ffliw blynyddol.
Bob blwyddyn yng Nghymru, brechlynir dros 750,000 o bobl yn erbyn y ffliw, ac mae Mr ap Iorwerth yn annog yr etholwyr hynny a ddylai gael y brechlyn i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol cyn misoedd y gaeaf.
Mewn gaeaf arferol bydd miloedd o bobl yn cael eu heffeithio gan afiechydon sy’n gysylltiedig â ffliw yn y DU, felly mae’n bwysig iawn bod pobl sydd mewn perygl o ffliw yn arbennig yn gwneud apwyntiad i gael eu brechu bob blwyddyn.
Ar ôl cael ei frechu, dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Rydw i newydd gael fy mhigiad ffliw blynyddol, ac rwy’n eich annog chi i fynd a gwneud yr un peth. Os ydych chi dros 55 oed, os ydych chi’n dioddef o salwch cronig neu os ydych chi’n feichiog, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n trefnu cael pin ffliw.
“Gall ffliw arwain at salwch difrifol fel broncitis a niwmonia a allai fod angen triniaeth ysbyty. Dylai plant 2 flwydd oed gael y brechlyn ffliw trwynol, sef y brechlyn ffliw gorau i blant.
“Gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu neu fferyllydd i gael eich brechu rhag ffliw – mae’n cymryd munud, yn para am flwyddyn ac yn gallu achub bywyd.”