Mater Ewropeaidd y gallwn i gyd gytuno arno

Defnyddiodd Rhun ap Iorwerth ei gwestiwn i’r Prif Weinidog i drafod ‘mater Ewropeaidd y gallwn i gyd gytuno arno’, sef llongyfarch tim pêl-droed Cymru ar gyrraedd y Pencampwriaethau Ewropeaidd a dymuno’n dda iddynt yn Ffrainc.

Defnyddiodd Rhun ei gyfraniad hefyd i dalu teyrnged i’r rhai o Ynys Môn sydd yn rhan o’r tim. Yn siarad yn y Senedd ddoe, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Trown at fater Ewropeaidd yr ydym ni i gyd yma yn y Siambr yn gallu cytuno arno fo. Rwy’n gwybod ein bod ni i gyd yma yn dymuno’n dda iawn i’r tîm cenedlaethol. Mi fyddech chi’n ei gweld hi’n od iawn pe na bawn i’n cyfeirio at y cyfraniadau arbennig gan y rhai o Ynys Môn i’r tîm cenedlaethol, ac rwy’n falch iawn o allu dymuno’n dda iawn i Osian Roberts, fel aelod o’r tîm hyfforddi, ac i Wayne Hennessey hefyd yn y gôl. Mi wnaf grybwyll y gwaith y tu ôl i’r llenni gan Trefor Lloyd Hughes yn y blynyddoedd diwethaf hefyd.

“A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod angen defnyddio rŵan llwyddiant y garfan yma, a’r llwyddiant mawr a ddaw gobeithio yn Ffrainc, fel llwyfan, a’n bod ni yn defnyddio’r garfan fel ‘role model’, nid yn unig i hybu proffil Cymru ac i hybu pêl-droed fel camp, ond hefyd i hybu gweithgaredd corfforol sy’n rhywbeth mor bwysig, wrth gwrs, i iechyd ein poblogaeth ni?”

Yn ei ymateb, roedd y Prif Weinidog yn cytuno gyda Rhun y dylai gwaddol y pencampwriaethau gynnwys hyrwyddo gweithgaredd gorfforol yn ogystal a buddiannau economaidd:

“Mae yna ddau beth fan hyn sy’n bwysig: yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae chwaraeon ac yn gweld pêl-droed fel rhywbeth i’w wneud er mwyn helpu eu hiechyd nhw ac, yn ail, wrth gwrs, sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi, nid dim ond yn Ewrop, ond ar draws y byd. Fe welon ni beth ddigwyddodd gyda Gweriniaeth Iwerddon yn 1990 pan aethon nhw i gwpan y byd. Gwnaeth e fyd o wahaniaeth i’w heconomi nhw a hefyd i’w twristiaeth nhw.”