“Ergyd arall i hyder sydd eisoes yn pylu” – Rhun ap Iorwerth AS yn ymateb i fethiannau pellach gan Betsi

Mae’r llefarydd dros iechyd , Rhun ap Iorwerth AS, wedi mynegi “pryder difrifol” yng nghanfyddiadau diweddar camweinyddu mewn perthynas â chleifion ar restrau aros Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

 

Ddydd Iau 9 Medi cyhoeddwyd adroddiad cyhoeddus o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus yr Ombwdsmon (Cymru) 2019, yn dilyn ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Edrychodd yr ymchwiliad i “ddigwyddiadau posib o fethiant gwasanaeth a chamweinyddu” mewn perthynas ag 16 o gleifion yn aros am driniaeth frys ar gyfer canser y prostad ym mis Awst 2019.

 

Canfuwyd bod atgyfeirio cleifion i gael triniaeth yn Lloegr, yn golygu nad oedd y cleifion hyn wedyn yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau tor-rheol os oeddent yn rhagori ar dargedau amser aros, ac ni chwblhawyd asesiadau i weld a oedd niwed wedi’i achosi i’r cleifion hyn o ganlyniad i’r aros hir .

 

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai ei disgwyliad oedd y dylai’r bwrdd iechyd fod â pholisïau ar waith gyda darparwyr yn Lloegr i adlewyrchu safonau Cymru fel adroddiadau torri amodau ac adolygiadau niwed.

 

Ym mis Awst 2019, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig, golygai hyn fod gan Weinidogion Cymru bwerau i ymyrryd yn ffurfiol dros y bwrdd iechyd.

 

Tynnwyd y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, ar y pryd derbyniodd Mr ap Iorwerth y dewis gydag amheuaeth, gan ddweud bod “problemau’r bwrdd yn gronig ac yn strwythurol, a bod angen newidiadau mawr o hyd.”

 

Mae Mr ap Iorwerth wedi galw o’r blaen am “newid ffiniau daearyddol iechyd a gofal yn y gogledd”, ac yn dweud bod adroddiad heddiw yn ychwanegu at ei farn bod y bwrdd iechyd yn “rhy fawr ac yn feichus, gyda safonau’n dioddef o ganlyniad i gamreoli Llafur .”

 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS, llefarydd iechyd Plaid Cymru,

 

“Unwaith eto rydym yn clywed adroddiadau o fethiant gwasanaeth o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tra roedd mewn mesurau arbennig, ac yn derbyn cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru Llafur.

 

“Mae’n destun pryder mawr clywed bod yr arfer o atgyfeirio cleifion at ddarparwyr triniaeth y tu allan i Gymru, yn golygu nad oedd y cleifion hyn yn derbyn y safonau a nodwyd ym mholisi iechyd Cymru, ac ni chawsant eu cynnwys mewn adroddiadau amser targed a gollwyd.

 

“Erys cwestiynau ehangach, yr un mor ddifrifol, ynghylch cynllunio gallu ac olyniaeth yn yr adran wroleg.

 

“Er y gallwn gymryd peth cysur bod y bwrdd iechyd wedi derbyn yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn, erys y ffaith bod hon yn ergyd arall i’r hyder sydd eisoes yn pylu gan bobl gogledd Cymru yn eu bwrdd iechyd.

 

“Mae’n ychwanegu at bryderon bod Betsi Cadwaladr wedi bod yn anaddas at y diben ers amser maith – ei fod yn rhy fawr ac yn feichus, mae ei agenda yn rhy ganolog i’r cymunedau anghysbell y mae i fod i’w gwasanaethu. Faint yn fwy o dystiolaeth sydd ei hangen arnom i lithro safonau o ganlyniad i gamweinyddu a diffyg cyfeiriad strategol? ”