Swyddogion heddlu lleol ac Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth oedd ymhlith yr ymwelwyr â Llys y Gwynt, hostel Digartref Môn ar gyfer pobl ifanc digartref yng Nghaergybi, ddydd Gwener.
Edrychodd Digartref Môn yn ôl ar flwyddyn arall o gefnogi rhai o’n pobl ifanc mwyaf bregus. Ymhlith eu cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf y mae’r dymuniad i barhau i ddatblygu eu gardd lysiau bendigedig.
Dywedodd yr AC Rhun ap Iorwerth:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i dîm Digartref Môn am bopeth maen nhw’n ei wneud.
“Mae’n drist bod angen y math hwn o ddarpariaeth arnom ac mae diffyg cyllid enbyd ar ei gyfer, ond rydym mor ffodus o’r tîm ymroddedig hwn sydd gennym ar Ynys Môn.”