AC Ynys Môn yn cwestiynu’r Prif Weinidog ynghylch diwygio’r cynllun nofio am ddim.

Fe allai diwygio cynllun poblogaidd sy’n cynnig sesiynau nofio am ddim i blant dan 16 oed ar Ynys Môn arwain at oblygiadau sylweddol iawn i wasanaethau hamdden ar yr ynys, rhybuddiodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Disgwylir i’r cynllun nofio am ddim newydd ddisodli’r cynlluniau presennol sydd yma yn Ynys Môn, ond bydd y gyllideb ar gyfer y gweithgaredd yn cael ei thorri yn ei hanner, gan adael twll du pum ffigur yng nghyllideb hamdden y Cyngor Sir, ar adeg pan fo cyllid eisoes yn dynn, yn sgil toriadau cyllidebol.

Cododd AC Rhun ap Iorwerth y mater yma yn siambr y Cynulliad brynhawn Mawrth yn sesiwn gwestiynu’r Prif Weinidog Mark Drakeford, gan amlinellu’r sefyllfa yma ar Ynys Môn a sut mae Awdurdodau Lleol ledled y wlad wedi defnyddio grantiau fel hyn i helpu cydbwyso’r llyfrau mewn amser o gyni ariannol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae goblygiadau sylweddol wrth i’r cynllun presennol ddod i ben. Boed o’n gywir neu ddim, roedd y cynllun yma wedi dod yn rhan allweddol o’r ffordd y mae Llywodraeth Leol yn talu am ei gwasanaethau hamdden oherwydd y toriadau anghynaladwy a wnaed i’w cyllidebau cyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Byddai’r gyllideb ar gyfer nofio am ddim yn Ynys Môn o dan y cynllun diwygiedig yn gweld y Cyngor yn derbyn dim ond hanner yr arian cyfredol, ac yn syml ni allant lenwi’r bwlch hwnnw o ryw £ 30,000.

“Rhaid i ni weld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol i Lywodraethau Lleol mewn termau real ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ond wrth drafod nofio am ddim yn benodol mae’n bwysig ystyried gwerth ychwanegol cyllid o’r fath o ran buddion iechyd yn lleihau straen yn y dyfodol ar y GIG a pha effaith mae’r penderfyniad yma yn ei gael ar genedlaethau’r dyfodol.

“Dywedodd y Prif Weinidog y bydd pedwar cynllun newydd yn digwydd yma ym Môn o ganlyniad i’r diwygiad yma, a byddaf yn cadw llygad barcud ar y buddion y mae’r mentrau newydd yma yn eu cynnig i’r ynys.”