AC Ynys Môn yn cyflwyno deiseb Ysgol David Hughes, ynghylch argyfwng hinsawdd i Lywodraeth Cymru

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi diolch i ddisgyblion Ysgol David Hughes am eu gwaith caled wedi iddo gyflwyno deiseb wedi ei llunio gan bobl ifanc yn yr ysgol i Lywodraeth Cymru’r wythnos hon.

Roedd y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac i gyfleu difrifoldeb y sefyllfa sy’n ein hwynebu wrth ddiogelu ein hamgylchedd, a chyflwynodd Mr ap Iorwerth y ddeiseb i Weinidog Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths ar ran y disgyblion.

Cyflwynodd Plaid Cymru hefyd gynnig ar gyfer dadl yr wythnos hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr union ddatganiad, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi datgan sefyllfa o argyfwng, ond ychwanegodd Aelod Ynys Môn fod y ddeiseb gan ddisgyblion Ysgol David Hughes yn dangos fod pobl yn dechrau trin y mater o newid hinsawdd fel un difrifol.

Wrth gyflwyno’r ddeiseb i Lesley Griffiths, y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Heddiw rwyf wedi cyflwyno deiseb i’r Gweinidog dros yr amgylchedd Lesley Griffiths ar ran disgyblion Ysgol David Hughes, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac i gyfleu difrifoldeb y sefyllfa sy’n ein hwynebu.

“Wrth gwrs, dau ddiwrnod yn ôl fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Rwy’n arbennig o falch o hynny gan eu bod wedi gwneud hynny ar ôl i Blaid Cymru gyflwyno’r Cynnig yn gofyn am Ddatganiad o argyfwng hinsawdd.

“Ar ddiwedd y dydd does dim ots pwy wnaeth hynny – fe wnaethon ni gymryd yr awenau ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei weithredu – ond mae hyn yn dangos trwy ddisgyblion un ysgol ar Ynys Môn bod pobl wir yn dechrau cymryd hyn o ddifrif.

“Nid yw’n anochel bod ein planed yn ddiogel. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r disgyblion yn Ysgol David Hughes am eu gwaith caled ar y ddeiseb yma. Mae angen i bob un ohonom, o dan arweiniad pobl ifanc fel y rhain, wneud popeth a allwn i ddiogelu’r byd o’n cwmpas. Dim ond un blaned sydd gennym.”