Cefnogaeth eang i’r enw uniaith ‘Senedd’ yn ol pol piniwn

Mae cyfran eang o bobl yng Nghymru yn cefnogi ail-enwi’r Cynulliad yn ‘Senedd’ fel yr enw swyddogol yn Gymraeg ac yn Saesneg mae arolwg barn wedi’i ddarganfod.

Mae arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan Plaid Cymru yn dangos bod 45% o’r rhai a ymatebodd yn cefnogi ‘Senedd fel yr unig enw ar y sefydliad, o’i gymharu â 28% sy’n cefnogi “Welsh Parliament” fel yr enw swyddogol yn Saesneg.

Os yn hepgor y rhai a ymatebodd gyda ‘ddim yn gwybod’, mae’r ffigurau’n nodi 56% i 35% o blaid ‘Senedd’.

Canfu’r pôl hefyd mai ‘Senedd’ oedd y dewis mwyaf poblogaidd i gefnogwyr o bob prif blaid wleidyddol yng Nghymru. Ac eithrio ddim yn gwybod, mae 84% o gefnogwyr Plaid Cymru a 59% o gefnogwyr Llafur yn cefnogi enw’r Senedd yn unig.

Ac eithrio ‘ddim yn gwybod’, cefnogodd 48% o gefnogwyr y Ceidwadwyr yr enw Cymraeg yn unig hefyd, er gwaethaf y gwrthwynebiad i’r enw gan y grŵp Ceidwadol ei hun yn y Cynulliad.

Dywedodd AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod yr arolwg barn yn cadarnhau bod cyfran eang o bobl Cymru eisiau i ‘Senedd’ fod yr unig enw ar gyfer y Cynulliad.

Meddai Mr ap Iorwerth fod aelodau etholedig y Ceidwadwyr allan o step gyda pobl Cymru a’u cefnogwyr ond y gallai Llafur eto newid ei meddwl a dangos eu bod ‘yn cyd-fynd â barn pobl Cymru’.

Dywedodd AC y Plaid Cymru fod y mater yn mynd ‘tu hwnt i wleidyddiaeth plaid’ a’i fod yn ymwneud â datblygu ‘math newydd o ddemocratiaeth yng Nghymru’ a bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.

Meddai AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth,

“Mae’r arolwg barn hwn yn cadarnhau’r hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod: mae cyfran eang o bobl yng Nghymru eisiau Senedd – a Senedd yn unig, fel yr enw ar gyfer eu sefydliad gwleidyddol cenedlaethol nhw.

“Yr hyn sy’n ddadlennol yw bod mwyafrif o gefnogwyr Llafur a Torïaid yn credu y dylai’r enw fod yn Senedd yn y ddwy iaith. Nid yn unig fo ACau Toriaidd allan o step gyda pobl Cymru – maen nhw allan o step â’u cefnogwyr hefyd.

“Roeddwn yn falch iawn bod nifer o aelodau Llafur eisoes wedi cofrestru i gefnogi ein gwelliant ar gyfer yr enw Senedd yn unig ond ar ddiwedd y dydd Llywodraeth Lafur sy’n bwrw’r bleidlais dyngedfennol.

“Mae Cymru yn cefnogi’r enw Senedd. Mae cefnogwyr Llafur yn cefnogi’r enw Senedd. A fydd y Llywodraeth Lafur hyn yn dangos eu bod yn cyd-fynd â phobl Cymru ac yn cefnogi’r enw Senedd hefyd?

“Mae hyn yn mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth pleidiol. Mae hyn yn ymwneud â dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom. Mae hyn yn ymwneud â dangos ein bod am ddatblygu math newydd o ddemocratiaeth yng Nghymru.

“Gadewch inni fod yn hyderus ynom ein hunain, gan uno’r genedl y tu ôl i’r enw sy’n eiddo i bawb waeth beth fo’u hiaith, gan adlewyrchu ein treftadaeth a gwawr math newydd o ddemocratiaeth. Dyma ein Senedd, enw unigryw ar gyfer Senedd unigryw.