Mae Llywodraeth Cymru yn rhy adweithiol wrth geisio am gyllid i Gymru ar ôl Brexit, meddai Rhun ap Iorwerth.

Mae Gweinidog Cysgodol yr Economi a Chyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC, yn gofyn pwy all pobl Cymru ddibynnu arno i ymladd dros y wlad wedi iddo labelu Llywodraeth Cymru yn rhy adweithiol, wrth geisio delio â chyllid ar gyfer Cymru wrth i Brexit agosau.

Mewn cwestiynau i Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, dywedodd AC Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wrth Rebecca Evans, fod angen i Lywodraeth Llafur yng Nghaerdydd fod yn fwy rhagweithiol a chynyddu ei ymdrechion wrth gyflwyno achosion am arian ychwanegol ar gyfer Cymru yn y cyfnod hanfodol yma, er lles y wlad.

Daeth cwestiynau Mr ap Iorwerth yn dilyn y cyhoeddiad bydd Gogledd Iwerddon yn derbyn £140 miliwn o gyllid newydd gan Lywodraeth y DU heb unrhyw eglurhad ynghylch a fyddai Cynulliad Cymru na Senedd yr Alban yn derbyn cyllid tebyg.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n cydymdeimlo â rhwystredigaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ond mae cymaint o hyn yn ymwneud â bod Llywodraeth Cymru yn adweithiol. Y cwestiwn ydi, pwy sydd yn bod yn rhagweithiol wrth geisio am y cytundeb gorau i Gymru ar ôl Brexit ac erbyn meddwl, ar hyn o bryd hefyd?

“Pwy allwn ni ddibynnu arno i ymladd dros Gymru? Ymddengys i mi na allwn edrych at Ysgrifennydd Gwladol Cymru oherwydd bod y swyddfa honno’n ailddiffinio ei hun fel llais Llywodraeth y DU yng Nghymru, yn hytrach na chynrychiolaeth Cymru yng Nghabinet Llywodraeth y DU, felly mae’n rhaid inni edrych ar Lywodraeth Cymru i fynd allan a mynnu’r cytundeb gorau i ni.

“Ymddengys i mi fod 10 aelod o un blaid wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn defnyddio mwy o arian na Llywodraeth Cymru, felly mae angen inni weld ymdrechion gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i fod yn fwy rhagweithiol a chyflwyno achosion am gyllid ychwanegol i Gymru ar yr amser hynod hanfodol i ni wrth inni wynebu ansicrwydd Brexit.”