Mae angen ysgytwad ar gynlluniau Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru, meddai AC Ynys Môn

Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru godi ei gêm yn sylweddol ynglŷn â datblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan (CT), yn ôl yr ymgyrchydd blaenllaw dros CT, Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, ar ôl i Blaid Cymru sicrhau £2m o gyllid i ddatblygu rhwydwaith gwefru cyflym.

Mae AC Plaid Cymru wedi arwain ymgyrch y blaid i fabwysiadu technoleg CT yn well, gan gynnig deddfwriaeth yn y Cynulliad a fyddai’n gwneud pwyntiau gwefru yn rhan o ganllawiau cynllunio yn y dyfodol, ac yn codi cwestiynau gyda Llywodraeth Cymru yn rheolaidd.

Yn ddiweddar benthycodd Mr ap Iorwerth CT i gynnal ei fusnes wythnosol yn y Cynulliad, mewn ymgais i ddangos yr heriau o fod yn berchen ar CT wrth ddefnyddio’r seilwaith presennol.

Cyflwynodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn y Cynulliad wythnos diwethaf, ddatganiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn natblygiad y rhwydwaith gwefru CT, gan nodi ei fod “yn anelu” i Drafnidiaeth Cymru fynd allan i gaffael er mwyn datblygu’r rhwydwaith yn “y gwanwyn nesaf.”

Mae Mr ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei gêm a symud ymlaen gyda’i chynlluniau gyda mwy o frys, a dywedodd hyn yn dilyn datganiad Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae Plaid Cymru yn falch bod £2 filiwn o gyllid wedi ei sicrhau i ddatblygu rhwydwaith gwefru cenedlaethol, ond mae gwir angen i Lywodraeth Cymru codi ei gêm wrth ddatblygu’r rhwydwaith. Mae cynnydd wedi bod yn araf iawn, gyda’r nesa peth i ddim brwdfrydedd ynglŷn â photensial datblygiad o’r fath.

“Yn y gwanwyn cyhoeddwyd bod un pwynt gwefru yn yr Alban ar gyfer pob 7,000 o bobl, ond yng Nghymru dim ond un pwynt gwefru a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer pob 100,000 o bobl. Mae hynny’n wael iawn, a mae’n sefyllfa ble mae angen am newid yn gyflym iawn.

“Mae Cymru yn cael ei dal yn ôl gan y Llywodraeth Llafur presennol. Byddai buddsoddi’r £2m yma yn gyflym ac yn effeithlon yn gam cyntaf cadarnhaol – mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd y mater yma o ddifrif.”