‘Wnawn ni byth wneud tro gwael â phorthladdoedd Cymru’ – Plaid Cymru

AC Plaid Cymru yn rhybuddio am “anrheithio economi Cymru” os bydd cytundeb Beit yn arwain at ffin galed ym Môr Iwerddon

Gydag adroddiadau o Frwsel yn awgrymu fod y timau trafod wedi cytuno mewn egwyddor y bydd ffin tollau i lawr Môr Iwerddon, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn a’r Gweinidog cysgodol dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth AC heddiw wedi erfyn ar ASau i beidio â chefnogi unrhyw gytundeb fydd yn arwain at dryblith economaidd i borthladdoedd Cymru.

Mae’r cwmni fferi Irish Ferries wedi dweud cyn hyn y gallai ail-gyflwyno mannau tollau olygu bod “UK plc yn dod i stop yn sydyn” a dywedodd Stena Line y gallai mannau tollau darfu ar holl fodel busnes “porthladd agored” Caergybi.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn a’r Gweinidog cysgodol dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth AC:

“Byddai cytundeb Brexit sy’n gosod ffin galed ym Môr Iwerddon bron cynddrwg i Gymru â Brexit heb unrhyw fath o gytundeb.

“Caergybi yw ail borthladd prysuraf y DG, gyda 400,000 o loriau ac ôl-gerbydau yn pasio drwyddi bob blwyddyn, heb fawr ddim oedi. Ar hyn o bryd, dyw hynny ond yn bosib oherwydd bod Cymru ac Iwerddon fel ei gilydd yn aelodau o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.

“Bydd cytundeb Brexit seiliedig ar yr egwyddor o roi ffin dollau i lawr Môr Iwerddon yn newid popeth i Gaergybi, gan greu llanast yn y porthladd ac o bosib olygu anrheithio economi Cymru gyfan.

“Mae ein holl borthladdoedd Gorllewinol yn brif flaenoriaethau strategol cenedlaethol. Ni fyddwn ni ym Mhlaid Cymru byth yn gwneud tro gwael a hwy trwy gefnogi cytundeb fyddai’n eu rhoi mewn sefyllfa wannach.

“Mae’n gliriach nac erioed bellach mai’r unig ffordd y gallwn sicrhau masnach ddiwnïad rhwng Cymru ac Iwerddon – ac amddiffyn ein heconomi yn ei chyfanrwydd – yw aros yn aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n bryd i Lywodraeth Prydain dderbyn hynny a gwneud darpariaethau ar unwaith ar gyfer Pleidlais y Bobl.”

Ychwanegodd Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn Aled ap Dafydd:

“Nid yn unig ydyw effeithiau dinistriol Brexit heb gytundeb yn gwbl glir wrth i Lywodraeth Prydain rhyddhau dogfen Yellowhammer ond mae Llywodraeth y DU wedi dangos dirmyg llwyr tuag at Ynys Môn a’i phobl.

“Trwy beidio gwneud unrhyw asesiad o gwbl o’r effaith ar Gaergybi a thagfeydd ar yr ynys, mae Llywodraeth ddiofal hon y DU wedi profi unwaith cyn lleied mae’n gwybod am Ynys Môn a’i phobl, ac yn poeni amdanynt hyd yn oed yn llai.

“Byddaf yn gwarchod Ynys Môn rhag cawlach San Steffan. Nid oes bargen yn bodoli sydd cystal â’n bargen bresennol: masnach ddiffrithiant a Chymru allfrydig yn yr Undeb Ewropeaidd.”