‘Ni allwn fforddio colli canolfan brawf Caernarfon HGV’ meddai Rhun ap Iorwerth

Mae Rhun ap Iorwerth yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a’r DU i weithredu a gwirdroi’r penderfyniad i gau canolfan brawf HGV yng Nghaernarfon, sy’n bygwth bywoliaeth nifer o fusnesau ledled gogledd-orllewin Cymru.

Cododd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth bryderon gyda Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol yr wythnos hon.

Ymatebodd Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates AC, i gwestiwn Mr ap Iorwerth, gan amlinellu ei fod wedi holi am eglurhad ar gynigion yr Adran Drafnidiaeth, ond anogodd AC Plaid Cymru ar i Lywodraeth Cymru ‘fynd ymhellach na hynny’, gan ychwanegu:

‘Ym mis Awst y llynedd, yn dilyn pryderon a godwyd gyda mi gan fy etholwr, Huw Williams, sy’n hyfforddi gyrwyr HGV ar Ynys Môn, ysgrifennais at y DVSA, gan dynnu sylw at y ffaith fod diffyg gallu yng Nghaernarfon.

‘Yr hyn yr oedd cwmnïau fel Huw Williams’ wedi’i ddarganfod yw na allent gael digon o slotiau yn y ganolfan yng Nghaernarfon er mwyn profi’r bobl hynny yr oeddent yn eu hyfforddi. Mae hynny’n dweud wrthyf fod angen i ni dyfu a chryfhau’r ganolfan, ac fel y gallwch ddychmygu felly, roedd fy siom yn fawr wrth glywed mai’r bwriad bellach yw cau’r ganolfan brawf.

‘Roedd awgrym y byddent yn ceisio safle arall yng Nghaernarfon, ar ôl cau’r safle presennol. Nid dyna sut y dylid gwneud pethau. Os yw’r DVSA yn cytuno bod angen canolfan yng Nghaernarfon, yna mae’n rhaid iddynt ddod o hyd i safle newydd yng Nghaernarfon neu yn yr ardal honno nawr, nid ar ôl cau’r ganolfan.

‘Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i annog Llywodraeth y DU i newid y penderfyniad hwn, oherwydd ni allwn fforddio colli’r ganolfan honno.’