‘Mae’r wladwriaeth Brydeinig yn gadael Cymru i lawr’ medd Rhun ap Iorwerth, wrth i ffigyrau newydd ddangos bwlch cyllidol o £13.7 biliwn

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y ‘wladwriaeth Brydeinig yn gadael Cymru i lawr’, yn dilyn cyhoeddi ffigyrau newydd o’r tîm ymchwil Dadansoddiad Cyllidol Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru heddiw (Mawrth 2 Gorffennaf).

Yr oedd y ffigyrau, a drafodir mewn cynhadledd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, yn dangos fod balans cyllidol net Cymru – y gwahaniaeth rhwng cyfanswm gwariant cyhoeddus Cymru ac amcangyfrif y refeniw cyhoeddus – yn ddiffyg o £13.7 biliwn.

Mae’r diffyg, a adwaenir fel bwlch cyllidol, yn 19.4% o amcangyfrif y GDP. Y ffigwr cymharol ar gyfer y DG gyfan yw 2%.

Canfu’r ymchwil hefyd fod cyfanswm gwariant y pen yng Nghymru yn sylweddol is nac yn Lloegr, gyda gwariant ar raglenni Llywodraeth y DG yng Nghymru ar wahân i nawdd cymdeithasol yn sylweddol is na’r gwariant cymharol yn Lloegr.

Yn rhyfeddol, canfu’r adroddiad fod gwariant cyfalaf – megis hwnnw ar seilwaith cyhoeddus newydd – yn is yng Nghymru, yn enwedig mewn trafnidiaeth a gwyddoniaeth a thechnoleg (76% a 75% o gyfartaledd y DG).

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth AC fod ‘Cymru’n cael ei dal yn ôl rhag cyrraedd ei photensial’ dan drefn bresennol y DG, a chyhuddodd Lywodraeth y DG o naill ai anghofio am Gymru neu ‘danfuddsoddi’n fwriadol’ yng Nghymru fel “ffordd o’n cadw yn ein lle”.

Rhybuddiodd Mr ap Iorwerth mai gwaethygu fyddai’r sefyllfa dan y naill neu’r llall o’r ddau ymgeisydd fydd yn brif weinidog Torïaidd nesaf, ac y byddai’n arbennig o ddrwg petai Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r canfyddiadau a ryddheir heddiw cyn cyhoeddi Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019 yn nes ymlaen y mis hwn, ac adroddiad pellach yn yr hydref am sut i gau bwlch cyllidol Cymru.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae’r ffigyrau hyn yn rhoi darlun gwael o le Cymru yn y Deyrnas Gyfunol. Yr hyn mae’r ffigyrau’n ddangos yw bod ffurf bresennol y wladwriaeth Brydeinig yn gadael Cymru i lawr, ac y mae ein cenedl yn cael ei dal yn ôl rhag cyrraedd ei photensial.

“Fel petai arnom angen mwy o brawf o pa mor isel mae Cymru’n cael ei hystyried gan San Steffan, dengys yr adroddiad hwn ein bod yn derbyn dim ond 76% o wariant cyfartalog Llywodraeth y DG ar drafnidiaeth.

“Dywed awduron yr adroddiad mai prif achos bwlch Cymru o £13.7biliwn rhwng swm y gwariant cyhoeddus yng Nghymru a swm yr arian a ddygir i mewn yw nid gwariant uwch, ond refeniw is, megis o drethiant.

“Mae’n synnwyr cyffredin fod buddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith cyhoeddus yn creu swyddi a ffyniant – ac felly yn cynyddu refeniw. Ac eto, mae gwariant Llywodraeth y DG ar seilwaith yng Nghymru yn sylweddol is nac yn Lloegr.

“Ar y gorau, mae’r wladwriaeth Brydeinig, trwy Lywodraeth y DG, wedi anghofio am Gymru. Ar ei waethaf, mae’n fwriadol yn tanfuddsoddi yn ein cenedl fel ffordd o’n cadw yn ein lle. Wnaiff hyn ond gwaethygu dan bwy bynnag o’r naill ymgeisydd neu’r llall ddaw yn brif weinidog nesaf, ac yn sicr os cymerir Cymru allan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Fel cenedl annibynnol wrth galon Ewrop, buasai gennym gyfres gyflawn o arfau i’w defnyddio i fuddsoddi mewn seilwaith a thyfu ein heconomi. Buasai gennym hefyd reolaeth lawn dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, megis trydan a dŵr.”