Mae’n rhaid i’r system brofi a monitro fod yn effeithiol ymhob rhan o Gymru, meddai Rhun ap Iorwerth

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar ganlyniadau profion Coronafeirws i gael eu cwblhau yn gynt. Mae cyngor gwyddonol yn dangos mai’r systemau profi rhyngwladol mwyaf llwyddiannus ydi’r rhai sydd yn gallu cael eu cwblhau o fewn 24 awr.

Mae Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, wedi gofyn am “fwy o sicrwydd” i sicrhau fod y system brofi a monitro yn cael ei chyflymu, gan ofyn hefyd i Lywodraeth Cymru sicrhau effeithlonrwydd y system ymhob ardal o Gymru.

Mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Grŵp Cynghori Technegol mai’r systemau profi, monitro ac amddiffyn mwyaf llwyddiannus ydi’r rhai sydd yn dangos y canlyniad o fewn 24 awr. Er bod Prif Weinidog Cymru wedi crybwyll ei uchelgais i gael canlyniadau o fewn 24 awr, dim ond traean o brofion sy’n gwireddu’r uchelgais yma ar hyn o bryd.

Galwodd Mr ap Iorwerth am fwy o sicrwydd i sicrhau bod yna fwy o frys i gyflymu’r system. Dywedodd fod “canlyniadau cynt yn mynd i alluogi Cymru i reoli achosion lleol yn well” yn sgîl gwelliant yr elfen fonitro.

Mae Mr ap Iorwerth hefyd yn awyddus i gael dadansoddiad rhanbarthol o’r canlyniadau i sicrhau nad oes oedi mewn rhai ardaloedd yn dilyn pryder gan etholwyr fod y broses yn arafach yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru:

“Rydym eisioes wedi clywed gan ymgynhorwyr Llywodraeth Cymru mai system brofi, monitro ac amddifyn lwyddianus ydi un sydd yn dangos canlyniad o fewn 24 awr. Mae’r manteision yn amlwg – os oes rhywun wedi profi yn bositif am Coronafeirws, gall yr elfen fonitro gychwyn yn gynt, ac mae mwy o bosiblrwydd i reoli’r achosion. Yn yr un modd, gall y rhai sydd wedi profi’n negatif ddychwelyd i’w bywyd arferol yn gynt, gan gynnwys y rhai sydd yn weithwyr allweddol.”

“Dwi’n gofyn am fwy o sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd wrth gyflymu’r broses, oherwydd mae canlyniadau cynt yn mynd i alluogi rheolaeth well o achosion lleol yng Nghymru.

“Dwi hefyd yn gofyn am ddadansoddiad rhanbarthol sydd yn dangos pa mor hir mae hi’n gymryd i ddychwelyd canlyniadau’r profion. Mae pobl yn fy etholaeth i yn bryderus am arafwch y system yng Ngogledd Cymru. Os oes canlyniadau yn cael eu hoedi mewn un ardal o Gymru, mi fydd yna fwy o oedi i gysylltu â’r rheiny sydd wedi bod mewn cysylltiad efo hwy, ac mae’r ardal gyfan yn cael ei heffeithio.

“Mae hi’n hollbwysig fod y system brofi a monitro yn gweithio yn effeithlon a chyflym, ac mae hyn yn wir ymhob rhan o Gymru.”