“Stopiwch, adroddwch, siaradwch: Byddwch yn #scamaware” meddai’r AC Rhun ap Iorwerth a Chyngor Dinasyddion Cymru

Mae Cyngor Dinasyddion Cymru wedi canfod tua 60% o bobl wedi bod mewn cysylltiad â sgamwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Dim ond 44% o’r rhai a dargedwyd a siaradodd ag unrhyw un am y mater, sy’n codi pryder.

O dan y slogan “Stopiwch, adroddwch, siaradwch: Byddwch yn #scamaware” y mae Cyngor Dinasyddion Cymru a’r AC Rhun ap Iorwerth yn annog pobl i gefnogi eraill a siarad am eu profiadau eu hunain, yn enwedig bobl bregus yn ystod cyfnod y Nadolig.

O’r holl sgamiau a hysbyswyd gwasanaeth Cyngor Dinasyddion Cymru amdanynt yn ystod y flwyddyn diwethaf, defnyddiodd mwy na hanner y sgamwyr ddulliau all-lein sefydledig. Mae tactegau clasurol y sgamwyr yn cynnwys gwerthu digymell ar stepen ddrws, galwadau a phost diwahoddiad, a chollodd bobl bron i £3,000 ar gyfartaledd.

Mae’r twyllwyr sy’n defnyddio’r dulliau hyn yn tueddu i dargedu pobl hŷn, mwy bregus ac agored i niwed, yn llethol.

Dywedodd Rebecca Wooley, Cyfarwyddwr Cyngor Dinasyddion Cymru:

“’Stopiwch, adroddwch, siaradwch: Byddwch yn #scamaware’ yw ein neges i ddefnyddwyr dros gyfnod y Nadolig hwn.

“Rydym yn gweld nad oes llawer o bobl sydd wedi dod i gysylltiad â’r sgamwyr wedi codi llais am y mater.

“Weithiau gall pobl deimlo cywilydd a’n ffôl wrth adrodd eu profiadau, ond yn anffodus golyga hyn bod y sgamwyr yn dianc heb gosb.”

“Mewn gwirionedd, gall unrhyw un ohonom gael ein targedu â sgam oherwydd lwc ddrwg. Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch hon yn annog pobl i rannu eu straeon a gwrando ar ein awgrymiadau i atal sgamwyr rhag eu twyllo am eu harian.”

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r Nadolig fel arfer yn amser i ddathlu. Fodd bynnag, i rai, gall sgamiau wir ddifetha tymor yr ŵyl.

“Dyma pam rwy’n cydweithio â Cyngor Dinasyddion Cymru i annog pobl nid yn unig i fod yn wyliadwrus o sgamiau, ond os ydynt yn dod i gysylltiad â nhw, dylent adrodd y profiad er mwyn rhybuddio eraill.

“Os ydych chi’n ansicr ynghylch sgam posib, gwiriwch bob amser.”

Os ydych chi’n poeni eich bod chi neu rhywun rydych chi’n eu hadnabod wedi dioddef sgam, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor Dinasyddion ar 03454 04 05 06 neu 03454 04 05 05 (Cymraeg).