Mae Rhun yn sefyll Ysgwydd wrth Ysgwydd gyda’r GIG ar ganser.

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi dangos ei gefnogaeth i weithwyr GIG yng Nghymru sy’n diagnosio, trin a gofalu am bobl a effeithir gan ganser mewn digwyddiad Cancer Research UK ym Mae Caerdydd.

Roedd y digwyddiad yn nodi pen-blwydd y GIG yn 70 oed a’r cyfraniad a wnaed gan feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ar draws y sector gofal am ganser. Defnyddiodd Cancer Research UK y digwyddiad i alw ar bawb i sefyll gyda’r GIG ac amlygu pwysigrwydd staff i ddiagnosio ac i drin canser.

Bob blwyddyn, mae dros 19,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ac wrth i’r boblogaeth dyfu a heneiddio, bydd y rhif yn codi.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Rhun: “Roedd yn dda croesawu Trevor Hughes-Morris I’r digwyddiad yma – mae o â’i wraig Carol, wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau Canser y Fron”

“Ar ôl 70 mlynedd o waith ardderchog gan y GIG, mae’n bwysig diolch i’r dynion a’r merched sy’n ymwneud â gofal canser.

“Mae canser yn effeithio ar lawer ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, a bydd 1 o bob 2 ohonom yn cael diagnosis yn ystod ein bywyd.

“Rydym oll eisiau gwasanaeth o’r radd flaenaf ble bydd pobl yn cael y cyfle gorau i oroesi’r afiechyd dinistriol hwn, er mwyn iddo gael ei ddiagnosio’n gynnar ac i gleifion gael y driniaeth orau posib.

“Dyna pam rwy’n cefnogi galwad Cancer Research UK i sefyll ysgwydd wrth ysgwyddo gyda’r GIG yn erbyn canser.”

Dywedodd Andy Glyde, rheolwr materion cyhoeddus Cymru yn Cancer Research UK: “Rydym yn ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth AC am ddangos ei gefnogaeth yn ein digwyddiad.

“Erbyn 2034, ein huchelgais yw bod 3 o bob 4 o bobl yn goroesi canser, ond nid yw datblygiadau mewn technoleg a thriniaeth yn golygu dim heb staff y GIG i’w gyflawni.

“Dyna pam mae cefnogaeth AC fel Rhun mor hollbwysig i helpu i wneud gwasanaethau canser Cymru’r gorau yn y byd.”