Rhun ap Iorwerth yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau ar gyfer caeau pêl-droed 3G newydd ar Ynys Môn

Mae gwir angen caeau 3G newydd mewn dwy o gymunedau mwyaf Ynys Môn yn ôl Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn, sydd wedi gofyn am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau i ddatblygu cyfleusterau cae 3G newydd yn Amlwch a Chaergybi.

Buddsoddwyd mewn 77 o gaeau 3G newydd ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd cyllid Llywodraeth Cymru, gyda’r targed o gyrraedd 100 o gaeau erbyn 2024, ond mae Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn wedi mynnu bod angen mwy o fuddsoddiad, a bod angen gweld datblygiadau pellach yng nghyfleusterau 3G mewn dwy o’i threfi mwyaf.

Wrth gwestiynu Llywodraeth Cymru heddiw, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“dwi am eich annog chi i fuddsoddi ymhellach ac i fuddsoddi’n benodol yn Ynys Môn. Gan gyfeirio at y cwestiwn blaenorol ynglŷn â phêl-droed rhyngwladol, fydd yna ddim pêl-droed rhyngwladol heb bêl-droed llwyddiannus yn ein pentrefi a’n trefi ni ym mhob cwr o Gymru. Dwi’n edrych ymlaen at ddilyn tîm Cymru draw i Azerbaijan yn nes ymlaen eleni, ond fyddwn ni ddim yn gallu gwneud hynny mewn blynyddoedd i ddod heb fuddsoddi yn y grass roots fel petai.

“Mae yna gae 3G bendigedig yn Llangefni, mae yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn uwchraddio adnoddau ym Mhorthaethwy. Mae gwirioneddol angen caeau 3G newydd yng Nghaergybi ac yn Amlwch. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd yn barod efo aelodau o’r cymunedau hynny sy’n barod i wneud beth bynnag sydd ei angen i ddod â’r buddsoddiad i mewn.

“Mae’r cyngor sir â chynllun dros y blynyddoedd nesaf o wneud buddsoddiad, ond mae angen y buddsoddiad rŵan. Gaf i ofyn am ymrwymiad gan y Llywodraeth i weithio efo fi ac eraill a’r cyngor sir a grwpiau cymunedol, cwmnïau budd cymunedol, yn Ynys Môn i wneud yn siŵr ein bod ni’n gallu chwilio am bob ffordd i dynnu’r arian i mewn i ddod â’r adnoddau yma sy’n hanfodol, nid dim ond ar gyfer dyfodol y gêm brydferth ond ar gyfer ein hiechyd ni fel cenedl?”

Ymatebodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, gan ychwanegu:

“Yn naturiol, rydw i’n mynd i gytuno efo hynny. Ces i’r cyfle i agor maes newydd ym Mharc Eirias yn y sir dwi’n byw ynddi, a dwi’n gwybod pa mor bwysig ydy’r adnodd yma ar gyfer pob math o chwaraeon lle mae’r meysydd yma’n addas.

“Felly, beth wnaf i ydy cyfleu’r hyn sydd wedi’i ddweud yma heddiw i Chwaraeon Cymru a gofyn am adroddiad pellach ar y cynnydd y maen nhw’n ei wneud yn Ynys Môn yn arbennig.”