Rhun ap Iorwerth i ysgrifennu at Network Rail a Llywodraeth Cymru ynghylch pont reilffordd Llangefni.

Mae Rhun ap Iorwerth Aelod Cynulliad Ynys Môn, yn ysgrifennu at Network Rail a Llywodraeth Cymru i bwyso am i bont reilffordd Llangefni gael ei hadfer cyn i brydles y lein gael ei throsglwyddo i gwmni rheilffordd lleol.

Mae cwmni Rheilffordd Canolog Ynys Môn ar fin sicrhau prydles i redeg trenau ar y lein, ond cyn iddynt wneud hynny mae AC Plaid Cymru wedi dadlau y dylai Network Rail dalu i ddisodli’r bont reilffordd goll, a gafodd ei thynnu i lawr ar ôl cael ei tharo gan lori yn 2018, er mwyn osgoi rhoi gormod o straen ariannol ar y lesddeiliaid newydd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n gefnogol iawn o ailagor y lein o Gaerwen i Amlwch – Dwi’n meddwl y byddai’n dda i dwristiaeth, mae cyswllt economaidd gwych ar gyfer Gogledd yr Ynys ac mae Cwmni Rheilffordd Canolog Ynys Môn ar fin sicrhau prydles i redeg y lein.

“Rwy’n credu y dylai Network Rail fod yn talu i adnewyddu’r bont cyn rhoi’r brydles, neu fe fyddan nhw’n rhoi gormod o straen ariannol ar y lesddeiliaid newydd a byddaf yn ysgrifennu at Network Rail a Llywodraeth Cymru i wneud y pwynt hwnnw.

“Mae nifer o bethau y bydd Network Rail yn ei gwneud cyn rhoi’r brydles drosodd – ond ar hyn o bryd, nid yw talu am bont newydd yn un ohonynt, ond rwy’n credu y dylent a byddaf yn pwyso am i hynny ddigwydd.

“Fe ddylen ni fod yn gwarchod rheilffyrdd fel yr un sydd gennym ni yma’n barod ar gyfer y posibilrwydd o ailagor y fath linellau yn y dyfodol ac rwy’n teimlo bod lle i ailagor y llinell arbennig yma ar draws Ynys Môn.”