Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno Datganiad Barn mewn undod gyda Chatalwnia

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth, a fu’n ymweld â Senedd Catalwnia dros yr Haf, wedi cyflwyno Datganiad Barn yn y Cynulliad i fynegi undod gyda phobl Catalwnia wedi i ddeuddeg o’u harweinwyr gwleidyddol a sifig gael eu carcharu yr wythnos hon.

The statement expresses concern on behalf of the people of Wales at the actions of the Spanish state, in imprisoning 12 Catalan political and civic leaders for between 9 and 13 years; notes that the right of self-determination is a fundamental human right; stands in solidarity with the imprisoned leaders of Catalonia and the people of Catalonia; and calls for the annulling of these sentences and for the Government of Spain to engage in a proper and respectful process of dialogue with the Government of Catalonia.

Mae’r datgniad yn mynegi pryder ar ran pobl Cymru ynghylch gweithredoedd gwladwriaeth Sbaen yn carcharu 12 o arweinwyr gwleidyddol a dinesig Catalonia am gyfnodau sy’n amrywio rhwng 9 mlynedd a 13 mlynedd; yn nodi bod yr hawl i hunanbenderfyniad yn hawl ddynol sylfaenol; yn sefyll mewn undod â’r arweinwyr sydd wedi’u carcharu yng Nghatalonia a phobl Catalonia; ac yn galw am ddirymu’r dedfrydau hyn ac i Lywodraeth Sbaen gymryd rhan mewn proses drafod briodol a pharchus gyda Llywodraeth Catalonia.

Fe wnaeth Rhun siarad yn y Senedd ar y mater yma hefyd yr wythnos hon. Dywedodd:

“Beth bynnag ein safbwynt ar yr egwyddor o wledydd llai yn yr ynysoedd yma, neu ar draws Ewrop, yn mynnu eu hawl i ryddid, ac i gymryd y cyfrifoldeb am eu dyfodol eu hunain, mi ddylai gweithredoedd y wladwriaeth Sbaeneg yr wythnos yma, yn carcharu deuddeg o arweinwyr gwleidyddol a sifig am gyfanswm o 100 mlynedd am y drosedd o fynnu llais i’w pobl, ddychryn pob un ohonon ni.

“Mi oeddwn i yn Senedd Catalonia rhyw ddeufis yn ôl; dwi’n ddiolchgar am y croeso a dderbyniais i a fy nheulu. Mi sefais i yno yn y Siambr, lle mynnodd yr arweinwyr gwleidyddol roi eu ffydd yn y bobl maen nhw yn eu cynrychioli. Mi sefais i dan luniau llywyddion y Senedd honno dros y blynyddoedd—gwleidyddion sydd wedi mynnu i Gatalonia fod yn genedl ac wedi mynnu iddi gael ei Senedd ei hun i warchod ei buddiannau a lleisio ei dyheadau. Yn eu plith nhw oedd Carme Forcadell, sydd heddiw mewn carchar, yn euog o’r drosedd o ganiatáu dadl yn y Senedd honno.

“Mi wn i yn iawn fod yna wahaniaeth barn yng Nghatalonia ar ddyfodol y wlad ac ar ei pherthynas â’r wladwriaeth Sbaenaidd, ond mae’r wladwriaeth honno, wrth gwrs, yn gwadu llais i’r bobl i benderfynu ar ei ffawd ei hunain.

“Dim ots ar ba ochr y ddadl yda ni ar yr egwyddor o allu cenhedloedd bach, fel ein un ni, i osod eu cyfeiriad eu hunain fel cenhedloedd rydd, allwn ni ddim jyst derbyn yr hyn yr ydym wedi ei weld yn ddigwydd yn Sbaen. Allwn ni ddim anwybyddu’r gweithredoedd yma gan wladwriaeth Ewropeaidd fodern i fod, yn cadw carcharorion gwleidyddol – cynrychiolwyr etholedig; Llywydd Senedd yn y carchar. Mae’r gweithredoedd cywilyddus yma eisoes wedi sbarduno protestiadau ar hyd a lled Catalwnia, a dylent sbarduno dicter ymysg democatiaid i gyd.

“Galwaf am ddatganiad cadarn a diamwys gan Lywodraeth Cymru yn atseinio fy ngalwadau i, a fy mhlaid, y dylem i gyd, fel seneddwyr, gondemnio y carchariadau hyn, ein bod yn galw fel cymuned ryngwladol ar bob lefel – yma yng Nghymru, ar lefel Brydeinig ac ar lefel Ewropeaidd – fod ein cydweithwyr yn cael eu rhyddid yn ôl a’n bod yn mynnu parch ar gyfer yr hawl dynol sylfaenol, yr hawl i hunanbenderfyniaeth.”