Rhun ap Iorwerth yn ceisio sicrwydd am ddatblygiad croesiad dros y Fenai

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn wedi galw ar Llywodraeth Cymru i beidio colli’r momentwm i ddatblygu pont Britannia, ers y cyhoeddiad i oedi prosiect Wylfa newydd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi arwain yr ymgyrch dros wella’r croesfannau dros Afon Menai ers iddo ddechrau yn ei swydd fel AC Ynys Môn. Yn Siambr y Cynulliad yr wythnos hon gofynnodd Rhun ap Iorwerth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford i sicrhau bod y datblygiad yn parhau, a dywedodd ei fod yn teimlo bod yna achos grêf dros geisio am fuddsoddiad ar y cyd gan y Grid Cenedlaethol at y gost i ddatblygu’r bont.

Dywedodd AC Ynys Môn:

“Un ffordd cost-effeithiol o wella rhwydweithiau ffyrdd yw buddsoddi ar y cyd. Bu rhywfaint o sôn am gael y Grid Cenedlaethol i gyfrannu at gost croesiad newydd dros y Fenai er mwyn cario ceblau fel rhan o ddatblygiad Wylfa newydd — Pont a fyddai’n caniatáu seiclo diogel i’r gwaith ym Mharc Menai, er enghraifft, am y tro cyntaf erioed.

“Gan fod datblygiad Wylfa newydd ddim yn parhau ar y funud, gofynnais i’r Prif Weinidog a yw’n cytuno ei bod yn bwysig peidio â cholli momentwm gyda datblygu’r bont newydd, ac os yw’n cytuno bod achos cryf iawn dros barhau i geisio buddsoddiad ar y cyd gan y Grid gan eu hannog i roi’r ceblau presennol dros y Fenai ar y bont newydd honno.

“Byddai hyn yn deillio o ran o brosiect gwerth biliynau o bunnoedd sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r DU i gael gwared ar beilonau a cheblau tanddaearol mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Byddai hefyd yn ffordd o dynnu’r peilonau sydd ar hyn o bryd yn rhedeg trwy ganol pentref Llanfairpwllgwyngyll.”