Rhun ap Iorwerth yn rhoi pwysau ar Drakeford gyda galwad i “beidio bod mor galed ar gynghorau”

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng sgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth AC â Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford dros ‘bryderon difrifol’ Plaid Cymru ynghylch drafft y gyllideb ddiweddar a’i oblygiadau ar gyfer cyllid llywodraeth leol. Gofynnodd Rhun ap Iorwerth am sicrwydd gan y Gweinidog y byddai arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol yn y gyllideb derfynol .

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth AC,

“Cefais gyfarfod gyda’r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford heddiw i fynegi pryder difrifol Plaid Cymru ynglŷn â’r effaith y bydd toriadau yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn ei chael ar lywodraeth leol gan ei annog i flaenoriaethu cyllid llywodraeth leol ar gyfer y gyllideb derfynol.

“Mae rhai awdurdodau lleol wedi amcangyfrif y bydd y toriadau arfaethedig yn arwain at fwlch o £ 57m o leiaf, sy’n cyfateb i golli 1300 o athrawon. Gan ystyried fod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 wedi cynyddu 2.4 y cant mewn termau real o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ni allaf weld sut y gellir gostwng 0.3 y cant o gyllid llywodraeth leol fel unrhyw beth ond llymder gan Lywodraeth Cymru.

“Yn dilyn datganiad yr hydref yr wythnos ddiwethaf, bydd mwy o wariant yn Lloegr yn arwain at gyllid i Gymru, gydag amcangyfrif o £58m ychwanegol o refeniw sydd ar gael nad yw eisoes wedi’i ddyrannu ar gyfer ymrwymiadau gwario eraill. Mae’n hollbwysig, wedyn, bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i lywodraeth leol.

“Heddiw, anogais y Gweinidog Cyllid i ailystyried y toriadau arfaethedig gan ofyn am sicrwydd y bydd cynyddu cyllid y cyngor yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb derfynol.

“Mae Cymru wedi dioddef yn fawr dros y degawd diwethaf o ganlyniad i lymder San Steffan. Mae pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi teimlo bod y toriadau hyn wedi brathu, yn enwedig Awdurdodau Lleol sydd wedi cael eu taro’n galed. Mae angen cymorth arnynt nawr er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol hanfodol. “