Rhun ap Iorwerth yn edrych ymlaen i’w rôl portffolio newydd

Mynegodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ei gyffro am yr heriau newydd sydd o’i flaen o heddiw yn dilyn ei benodiad fel Ysgrifennydd Cysgodol newydd Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid.

Tra’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cysgodol y Blaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan chwarae rôl allweddol yn llwyddiant Plaid Cymru i sicrhau Ysgol Feddygol yng ngogledd Cymru, rhoddodd Arweinydd newydd y blaid, Adam Pricem y portffolios Economi a Chyllid i Rhun wrth iddo ad-drefnu’r cabinet.

Yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â portffolios cabinet cysgodol Plaid Cymru prynhawn yma, mynegodd AC Ynys Môn ei gyffro ac amlinellodd y blaenoriaethau mae wedi’i gosod iddo’i hun fel Llefarydd Cysgodol newydd y Blaid dros yr Economi a Chyllid.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n edrych ymlaen at gael fy nannedd i mewn I’r gwaith mawr sydd ynghlwm â’r briffs. Ar gyllid, mae’n ymwneud â arwain rhaglen Plaid Cymru ar ddefnyddio pwerau trethi newydd yn y ffordd orau bosibl, a dal y Llywodraeth i gyfrif ar y ffordd y mae nhw’n gwario arian ar hyn o bryd.

“O safbwynt yr economi, mae’n ymwneud â gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus a rhannu’r llewyrch hwnnw i bob rhan o Gymru. Mae’n ymwneud â chreu system drafnidiaeth sy’n gweithio i Gymru gyfan, sy’n dod â Chymru at ei gilydd fel cenedl – rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r afael â’r swydd.

“Mae hwn yn dîm cryf yr wyf yn falch o fod yn rhan ohono. Mae Llafur wedi cael eu cyfle, wedi llywodraethu Cymru ers 1999 – mae’n amser am newid. Mae hwn yn dîm sy’n gallu llywodraethu Cymru, a llywodraethu’n dda, o 2021. “