Rhun ap Iorwerth yn beirniadu ‘ llymder Llafur ‘ tuag at gyllid Llywodraeth Leol

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi beirniadu’r hyn a alwodd yn ‘Llymder Llafur’ at gyllid Llywodraeth Leol Cymru, wrth i awdurdodau lleol ddioddef toriadau sylweddol i’w cyllidebau er bod gan Lywodraeth Lafur Cymru fwy o arian i’w wario.

Wrth gyfrannu at ddadl yn Siambr yn y Cynulliad brynhawn Mawrth ynghylch cyllid Llywodraeth Leol, beirniadodd llefarydd cysgodol Plaid Cymru dros yr economi a chyllid y Llywodraeth Lafur am gael llywodraethau lleol Cymru mewn gafael tynn, tra yn galw am gymorth i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.

Meddai Mr ap Iorwerth:

“Mae Llywodraeth Leol Cymru wedi gweld ‘Llymder Llafur’ Llywodraeth Cymru yn dwysáu dros y ddegawd diwethaf gyda toriadau mawr, annerbyniol. Mae torri gwariant bron i 2% pan fo cyllid refeniw cyffredinol wedi cynyddu dros 2.4% yn golygu nad yw Llywodraeth Leol yn cael y flaenoriaeth yr ydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn dweud ei bod yn ei haeddu.

“Pam y byddai Llywodraeth Cymru yn penderfynu dewis rhoi cynghorau trwy’r cyfnod ariannol anodd yma yn y lle cyntaf? Beth a welwn mewn rhan arall yn y gyllideb? Gwelwn gynnydd sylweddol mewn gwariant ar iechyd. Dydw i ddim yn mynd i ddadlau yn erbyn rhoi arian i iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae’n rhaid i ni weld y gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yn eu cyfanrwydd.

“Mae Llywodraeth Leol yn rhan bwysig o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda chynghorau yn cael ei hamddifadu o arian, mae gwasanaethau cymdeithasol yn dioddef. Mae’r pwysau ar ofal iechyd eilradd yn cynyddu, sydd wedyn yn golygu bod yna ‘orwario, cyn cyfeirio arian ychwanegol atynt – mae’n creu trobwll dieflig.

“A yw’r Llywodraeth yn gwrando ar y gri gyhoeddus i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd? Efallai eu bod nhw, ond mae angen iddynt fuddsoddi yn y pethau sy’n helpu i ddarparu gofal iechyd. Mae hynny nid yn unig yn golygu ariannu cynghorau fel y gallant ddarparu gofal cymdeithasol effeithiol, ond mae gwasanaethau hamdden yn cadw pobl yn iach, mae addysg yn amlwg yn allweddol hefyd, ond yn anffodus bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn dal i weld toriad yn eu cyllideb ac nid yw’n ddigon da o gwbl.”