Rhun ap Iorwerth yn galw am gefnogaeth well gan y Llywodraeth i Fusnesau Bach cyn dydd Sadwrn y Busnesau Bach

Wrth i ni edrych ymlaen at ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, mae Rhun ap Iorwerth eto eleni wedi addo cefnogi busnesau lleol bach ac annog eraill i wneud yr un fath, gan annog Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i gefnogi busnesau bach er mwyn iddynt fedru parhau.

Dydd Sadwrn Rhagfyr 1af yw dydd Sadwrn y Busnes Bach, ac mae ffigurau yn amlinellu bod 240,000 o fusnesau bach yn trosi £46 biliwn y flwyddyn, sydd yn tanlinellu pwysigrwydd mentrau bach a chanolig am ei bod nhw yn hanfodol i economi’r wlad.

Gyda dydd Sadwrn y Busnesau Bach y penwythnos hwn, mae Mr ap Iorwerth unwaith eto yn annog pobl i siopa’n lleol er mwyn dathlu’r cyfraniad y mae busnesau llai yn ei wneud i economi Cymru.

“Gyda hi’n ddydd Sadwrn y Busnes Bach y penwythnos yma, rwyf eto eleni yn annog pobl Ynys Môn i gefnogi busnesau bach a’r Stryd fawr, ond hefyd i ymrwymo i wneud hynny trwy gydol y flwyddyn.

“Mae busnesau bach ar y Stryd fawr yn hanfodol i gryfhau’r economi, ond maent hefyd yn bwysig iawn i ni yn gymdeithasol hefyd, a dylai darganfod ffyrdd gwell o gefnogi busnesau bach fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

“Felly, a hithau’n ddydd Sadwrn y Busnesau Bach y penwythnos yma – beth am wneud addewid? Gwariwch £10 mewn busnes bach lleol. Bydd yr arian sy’n cael ei wario’n lleol yn mynd yn bell iawn yn wir, felly cofiwch gefnogi busnesau bach nid yn unig ar ddiwrnod y Busnesau Bach dydd Sadwrn yma, ond bob dydd lle bo modd gwneud hynny yn y dyfodol hefyd.”