Byddai datganoli cyllido isadeiledd rheilffyrdd yn helpu i uno Cymru, medd Rhun ap Iorwerth

Byddai datganoli y cyfrifoldeb a’r cyllid am isadeiledd rheilffordd i Gymru yn caniatau i ni greu rhwydwaith reilffordd a allai wirioneddol uno’r genedl, medd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.

Yr wythnos hon, croesawodd y Gweinidog Cysgodol dros Economi a Chyllid adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau i gael pwerau dros isadeiledd rheilffordd wedi’i ddatganoli i Gymru – rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers amser maith.

Mae ystadegau yn dangos mai dim ond 1% o holl gyllid llywodraeth y DU ar gyfer gwella isadeiledd rheilffordd a gafodd ei fuddsoddi yn y rhwydwaith yng Nghymru, er bod 11% o’r rhwydwaith rheilffordd gyfan yng Nghymru.

Bu’r AC Plaid yn dadlau mai ‘arian mân’ fyddai’n ei gostio i fuddsoddi mewn creu rhwydwaith rheilffordd i uno’r genedl, o’i gymharu â’r £150bn sy’n cael ei wario ar rai o’r prosiectau isadeiledd rheilffordd mawr yn Lloegr ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rydw i’n croesawu’n fawr yr adroddiad sy’n amlinellu gweledigaeth i gymryd rhagor o gyfrifoldeb am ddatblygu isadeiledd rheilffyrdd. Rydw i’n ei groesawu fo am ein bod ni fel plaid wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer. Mae o’n adlewyrchu’r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud, a’r consensws sydd wedi datblygu o fewn y Senedd.

“Rydym yn gwybod bod yna danfuddsoddi dybryd wedi bod yng Nghymru — dim ond 1 y cant o’r arian sydd ar gael i wella rhwydwaith Prydain yn cael ei wario yng Nghymru, er fod 11 y cant o’r rheilffyrdd yma.”

“Rydw i’n falch o weld y cyfeiriad at agor coridor i lawr y gorllewin, at fuddsoddi o Amlwch drwodd i Fangor ac wedyn ar draws drwy Gaernarfon i lawr tuag at Aberystwyth, agor y llinell yna o Aberystwyth i Gaerfyrddin, lawr i Abertawe. Mae’n rhaid inni gael yr uchelgais yma.

“Mae pobl yn dweud fod y rhain yn fuddsoddiadau mawr, ond edrychwch ar y buddsoddiad sy’n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae gennych chi £56 biliwn yn mynd i HS2, £30 biliwn yn mynd i Crossrail 2, £70 biliwn yn mynd i Transport for the North. Pres mân ydy’r hyn rydym ni’n sôn amdano fo er mwyn creu isadeiledd rheilffordd sy’n wirioneddol yn gallu ein huno ni fel gwlad – mae’n rhaid i ni gael y gallu i fuddsoddi mewn ehangu ein rheilffyrdd.”