AC Plaid Cymru yn falch bod y Senedd wedi pleidleisio o blaid pleidlais y bobl

Mae Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal pleidlais cadarnhau BREXIT – ble bydd opsiwn i aros yn ymddangos ar y papur pleidleisio – sydd yn golygu mai hon yw’r Senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

Siaradodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth mewn dadl a gyflwynodd ei blaid ar y mater gan fynegi ei falchder bod y Senedd wedi pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n falch bod y Senedd yn ddiamod wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm pleidlais pobl – gyda’r opsiwn i aros mewn ar y papur pleidleisio hefyd – yn dilyn dadl dan arweiniad Plaid Cymru, fel y Senedd gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

“Ar ôl llanast y tair blynedd diwethaf, mae ein hasesiad yn parhau’n glir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd – ein hasesiad ni – yn niweidiol i Gymru – yn ddrwg i ffermio, yn ddrwg i bobl ifanc, i’r GIG ac i’r economi.

“Rwy’n falch o sefyll ochr yn ochr â’r pleidiau gwleidyddol eraill yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol sydd hefyd yn rhannu’r un pryderon a ni. Ni fydd pawb yn cytuno â’r asesiad hwnnw, ond prydferthwch yr hyn yr ydym yn galw amdano heddiw yw nad ein hewyllys ym Mhlaid Cymru yw i ni gael ein dilyn, ond ewyllys y bobl heddiw.

“Beth am roi i’r bobl, nid ni, y gair olaf, a gadael i’r bobl roi eu hasesiad o’r hyn sydd wedi datblygu ers Mehefin 2016. Mae ein dyfodol a dyfodol ein plant yn y fantol.”