Ni roddwyd unrhyw sicrwydd i Gymru ynghylch cyllid strwythurol ar ôl Brexit gan Lywodraeth y DU

Mae Cymru wedi elwa o dros £4b o Ariannu Strwythurol Ewropeaidd gan yr Undeb Ewropeaidd ers 2000, ond pythefnos yn unig cyn ymadawiad DU o’r UE ar Ionawr 31ain, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi dysgu nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ynghylch unrhyw agwedd ar gronfa newydd arfaethedig i ddisodli’r arian a gollwyd trwy adael yr UE.

I ddechrau, addawodd Llywodraeth Geidwadol y DU ymgynghoriad llawn ar fanylion y Gronfa Ffyniant a Rennir – un a ddyfeisiwyd er mwyn disodli cronfeydd yr EU y byddai’r DU yn colli’u mynediad atynt o ganlyniad i Brexit – a bwriedir ei chyhoeddi gan weinidogion y DU cyn diwedd 2018, ond eto wrth i ymadawiad y DU o’r UE agosáu, nid oes manylion am y gronfa arfaethedig, ac nid yw’r ymgynghoriad wedi digwydd.

Heddiw, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru, bwyso ar Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, am unrhyw fanylion ynglŷn â’r gronfa newydd, a gofynnodd pa sicrwydd a roddwyd i Lywodraeth Cymru am y gronfa gan Lywodraeth y DU.

Wrth gwestiynu’r Prif Weinidog, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“rydyn ni yn symud tuag at fywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd rŵan, a rydyn ni’n gorfod edrych ar warchod buddiannau Cymru yn y cyd destun newydd hwnnw, a rydyn ni i gyd yn gytûn nad dim ond faint o arian ddaw yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd sy’n bwysig, ond sut mae’r arian hwnnw yn cael ei wario.

“Rydych chi’n sôn yn y fan yna am yr hyblygrwydd newydd a allai ddod mewn rhai meysydd. Pa sicrwydd ydych chi wedi’i gael hyd yma a pha fygythiadau ydych chi wedi sylwi arnyn nhw hyd yma ar yr egwyddor hwnnw y dylai blaenoriaethau gael eu gosod a phenderfyniadau gwariant gael eu gwneud yng Nghymru dan y gronfa newydd?”

Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford trwy ddweud:

“Dŷn ni ddim wedi cael sicrwydd o gwbl am unrhyw agwedd o’r gronfa newydd, a does dim manylion ym maniffesto’r parti Ceidwadol, a dŷn ni ddim wedi clywed dim byd eto gan y Llywodraeth newydd. Dyna pam y dywedais i mae’n hollol bwysig i’r Llywodraeth newydd gyhoeddi’r manylion a siarad gyda ni am y manylion.

“Bydd yn rhaid i ni yma yng Nghymru—ac nid jest yn y Llywodraeth, ond gyda phob un sydd wedi bod yn rhan mor bwysig yn y ffordd rydym ni wedi gwario’r arian sydd wedi bod gyda ni o dan yr Undeb Ewropeaidd—fod yn glir am beth yw awgrymiadau’r Llywodraeth newydd, i roi sicrwydd i ni am yr egwyddorion rydym ni wedi sôn amdanynt heddiw, a chydweithio gyda ni i gynllunio cynllun effeithiol am y dyfodol.”