Addysg Feddygol ym Mangor yn fuddugoliaeth i Blaid Cymru, medd Rhun ap Iorwerth

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod wrth ei fodd wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd Prifysgol Bangor yn cynnig cyrsiau meddygol i fyfyrwyr o 2019 ymlaen, gan ddweud fod y cyhoeddiad yn fuddugoliaeth sylweddol i Blaid Cymru a’r gogledd.

Bydd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno rhaglen o addysg feddygol israddedig pedair blynedd o 2019 ymlaen, a bydd gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno’r radd feddygol safonol bum-mlynedd yng ngogledd Cymru.

Fel llefarydd cysgodol y blaid ar Iechyd trwy gydol y rhan fwyaf o ymgyrch Plaid Cymru, chwaraeodd Mr ap Iorwerth ran allweddol ym mhledio’r achos dros gyflwyno addysg feddygol lawn yng ngogledd Cymru, ochr yn ochr ag AC y Blaid dros Arfon, Sian Gwenllian, a Hywel Williams AS.

Wedi’r cyhoeddiad, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae hyn yn newyddion gwych i ddarpar fyfyrwyr meddygol yng ngogledd Cymru ac yn fuddugoliaeth fawr arall i Blaid Cymru yn dilyn ein hymgyrch faith i weld addysg feddygol lawn yn y gogledd.

“Bydd llwyddiant yr ymgyrch hon gan Blaid Cymru yn golygu y bydd mwy o feddygon yn gyffredinol yn cael eu hyfforddi, ac i’r hyfforddiant hwnnw ddigwydd lle mae’r prinder mwyaf o feddygon. Byddwn yn parhau i ddwyn pwysau i gynyddu’r niferoedd eto, ond y mae hyn yn ddechrau da ac, yn bwysig iawn, mae gweledigaeth Plaid Cymru o ganolfan newydd am addysg feddygol ym Mangor ar y ffordd i gael ei gwireddu.

“Mae prinder gweithlu ymysg un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu ein GIG, ac er bod hyn yn fwy na phrinder meddygon, rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwy’n ddiolchgar i’r Prifysgolion am wynebu’r her.”