“Mae Llafur wedi methu cymryd y pwysau oddi ar Lywodraeth Leol”, meddai Rhun ap Iorwerth.

Mae polisi Ceidwadol San Steffan wedi bod yn niweidiol iawn, ond Llywodraeth Cymru Lafur sydd wedi methu â chymryd y pwysau oddi ar Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyda’u cyllideb ddiweddaraf, yn ôl Gweinidog Cysgodol yr Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth.

Mewn dadl ar Gyllideb Derfynol Llafur 2019-20, dadleuodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn fod Llywodraeth Cymru ddim wedi manteisio ar y cyfle i leddfu pryderon arwyddocaol Awdurdodau Lleol, a bod y Llywodraeth yma wedi cymryd y penderfyniadau anghywir yn y gyllideb.

Mae grant craidd llywodraeth leol wedi gostwng 22 y cant ers 2010, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amlinellu bod gwasanaethau lleol yng Nghymru wedi colli mwy na £1 biliwn ers cychwyn y toriadau, gyda chynghorau wedi trio pob opsiwn posibl i geisio arbed arian yn effeithiol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rydym yn unfrydol bod angen pwyntio bys ar y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a’r hyn a wnaethpwyd gan eu polisi llymder. Ond dewisodd Llywodraeth Lafur Cymru beidio buddsoddi mewn llywodraeth leol pan gawson nhw’r cyfle i wneud hynny gyda’r gyllideb yma.

“Allwch chi ddim osgoi cymryd y bai am fethu cefnogi ein Cynghorau. Mae iechyd wedi gweld cynnydd o £0.5 biliwn ers y gyllideb atodol gyntaf, a does dim posib i’r gwasanaeth iechyd weithio mewn gwactod.

“Mae’n rhaid i lywodraeth leol gael ei hariannu’n dda er mwyn medru rhoi’r gefnogaeth gywir i’n gwasanaethau cymdeithasol er mwyn iddynt weithredu yn effeithiol, ond nid dyna’r sefyllfa heddiw.

“Rydym wedi codi’r materion yma dro ar ôl tro. Mae’r Llywodraeth yn gwybod bod pobl o fewn ei phlaid ei hunan yn teimlo’r un fath â ni. Dydyn ni ddim yn credu bod y penderfyniadau cywir, y penderfyniadau hynny a oedd â photensial i drawsnewid llywodraeth leol, neu gymryd pwysau oddi arnyn nhw o leiaf, wedi cael ei gwneud. “