Colofn y Mail – 7/11/2018

Felly… ydi ‘austerity’ drosodd? Ond mae Llywodraeth y DU yn honni hynny yng nghyhoeddiad y gyllideb yr wythnos diwethaf. Wel, gadewch i mi ddweud wrth y Canghellor Toriaidd fod hi ddim yn edrych nac yn teimlo felly o ble rydw i’n sefyll. Mae’n Cyngor ni yma yn Môn yn wynebu pwysau heb ei debyg o’r blaen. Mae cyllideb y rhan fwyaf o’r adrannau wedi cael ei torri yn aruthrol dros y degawd diwethaf, gydag addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei warchod cyn belled ag sy’n bosibl. Wel, heb weithrediadau difrifol fydd dim dewis arall, ond rhagor o doriadau. Yn gynharach eleni, honnodd Cyngor Swydd Nottingham yn swyddogol ei bod nhw yn fethdalwyr, ac rydw i’n ofni bydd awdurdodau lleol yma yng Nghymru mewn sefyllfaoedd tebyg heb chwistrelliad mawr o adnoddau.

Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi dewis i beidio cymryd y pwysau oddi arnynt ei hunain gyda’i phenderfyniadau cyllideb, ac yn fy rôl newydd fel Ysgrifennydd Cysgodol Cyllid dros Blaid Cymru, byddaf yn cyfarfod Ysgrifennydd Cyllid y Cabinet yr wythnos yma i’w holi, yng ngolau cyllideb y DU, am gymorth i’n cynghorau fedru anadlu yn haws wrth iddynt gamu mewn i ‘aeaf arall, ac wynebu blwyddyn ariannol newydd.

Doedd camu i mewn i Dachwedd ddim yn hawdd, gyda thywydd garw a gwyntoedd trymion dros yr Ynys. Ond diolch i’r storm, doedd o ddim yn rhy ffyrnig y tro yma, a ni wnaeth y glaw ddaeth i’w ganlyn achosi gormod o broblemau. Ond mae difrod yn sgil stormydd o’r gorffennol a dros y flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud i ni edrych ar newid hinsawdd. Yr wythnos yma, byddaf yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni fydd yn rhoi cyfle i holi’r cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru am y camau sydd wedi ei gymryd ers llifogydd yn y dref (rydw i wedi cadeirio cyfarfod tebyg yn Dwyran hefyd). Mae pobol angen sicrwydd, ac rydw i’n ddiolchgar i’r cyngor am gymryd camau pendant i warchod Llangefni trwy adeiladu wal newydd i’r Gogledd o Bont y Plas.

Yng Nghaergybi, gwyntoedd stormydd Emma oedd yn gyfrifol am y dinistr ar ddechrau’r flwyddyn. Cafodd marina’r dref ei chwalu, ac fel rydyn ni’n wynebu ein hail gyfarfod o’r Grŵp Defnyddwyr y Porthladd yr wythnos hon (rydw i’n cadeirio’r cyfarfod yma ar y cyd gyda’r AS), rydw i’n galw am fwy o dorchi llewys er mwyn dod a’r marina yn ôl yn gryf ac ar ffurf fwy cadarn. Roedd colli’r marina fel adnodd yn ergyd economaidd, ac rydw i’n gobeithio gallu tanio’r datblygiad yn ei flaen er mwyn ail-ddatblygu’r marina.