Stormydd gaeafol yn profi’r angen am Farina newydd, meddai AC Môn

Yn dilyn gwyntoedd cryfion eto fyth dros y penwythnos ar Ynys Môn, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi galw ar i bawb dynnu ynghyd i ailsefydlu marina mwy gwydn yng Nghaergybi.

Goddefodd Marina Caergybi ddifrod sylweddol mis Mawrth eleni, yn sgil Storm Emma. Mae colli’r Marina fel cyfleuster wedi bod yn ergyd economaidd i’r ardal, a chydag misoedd y gaeaf yn agosáu, mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar bawb sydd â chyfran yn nyfodol y Porthladd i uno er mwyn gofalu ei fod yn cael ei ail-sefydlu, ond gydag amddiffyniad ychwanegol rhag y tywydd gwael.

Dros y saith mis diwetha’ mae Mr ap Iorwerth wedi ymgysylltu mewn sgyrsiau cyson gyda’r rhanddeiliaid, ac wedi bod yn rhan flaenllaw yn ail-sefydlu Grŵp Defnyddwyr y Porthladd – ble mae’n cyd-gadeirio gydag Aelod Seneddol Môn.

Mae Mr ap Iorwerth yn galw ar yr holl bleidiau i ddod ynghyd er mwyn cynnig gweledigaeth glir fydd yn dod a’r Marina yn ganolbwynt i harbwr Caergybi. Byddai’n rhaid i’r datblygiad gael ei warchod gan forglawdd mewnol newydd, a buddsoddiad o filiynau o bunnoedd er mwyn diogelu’r angori gorau a geir yng Nghymru, a hyd yn oed y DU.

“Gyda’r Gaeaf yn agosau a’r tywydd yn gwaethygu, mae’n bwysig fod cynlluniau i ail-sefydlu marina Caergybi yn symud yn ei flaen. Beth am greu cynllun uchelgeisiol am farina newydd, ac uno er mwyn creu’r cynllun gorau posib er mwyn ail-sefydlu’r marina fel un weithredol unwaith eto” yn ôl Mr ap Iorwerth.

“Mae Cynlluniau cyffrous am ardaloedd eraill yn y Porthladd, a chyda’r cynnig cywir a chydweithrediad yr holl bleidiau gwleidyddol, gallai’r marina fod yn ganolog i’r datblygiadau, ond rhaid sicrhau cefnogaeth a buddsoddiad am gynllun amlbwrpas fydd yn fuddiol i bawb fydd yn defnyddio’r harbwr.

“Gallai Harbwr Caergybi fod yr un gorau yn y wlad, ac mae meddwl am wireddu hynny yn gyffrous iawn, ond rhaid i bob plaid gyd-weithio i wireddu’r weledigaeth newydd yma”