Cytundeb Brexit “yn bell” o’r hyn addawyd ac mae angen cynnal pleidlais i’r bobol yn ôl Rhun ap Iorwerth

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth fod Cytundeb Drafft ar y ddêl Brexit “yn bell i ffwrdd” o’r hyn addawyd, ac mae eto wedi agor yr achos am bleidlais y bobol yn y cytundeb terfynol.

Beirniadodd Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Economi, Trafnidiaeth a Chyllid a’r ymgyrchydd brwd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yr ansicrwydd o fewn y cytundeb ynglŷn â’r goblygiadau i Borthladd Caergybi, gan nodi pa mor ddinistriol fyddai ffin galed gyda Gweriniaeth Iwerddon i’r Porthladd ei hun.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod pobol yn gwybod sut beth fydd Brexit, rŵan bod ganddyn nhw dystiolaeth fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i effeithio Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac y dylai pobol gael pleidlais ar y cytundeb terfynol.

“Mae’n amlwg fod y cytundeb yn bell iawn o fod yn un delfrydol fel ag yr addawyd yn refferendwm 2016. Gyda hynny, dwi ddim yn meddwl bod dewis arall, ond gwneud yr hyn rydw i wedi galw amdano ers amser maith , sef gofyn i bobol eto “beth ydych chi’n feddwl rŵan? Rŵan bod gynnon ni rhywfaint o dystiolaeth?” – sydd yn golygu cynnal pleidlais i’r bobol.

“Mae Porthladd Caergybi yn hollbwysig, nid fel rhan o economi Ynys Môn, ond mae’n hollbwysig yng nghroesiad ffin y DU ar UE – yr ail borthladd llongau fferi (roll-on, roll-off) prysuraf rhwng yr UE, yn ail i Dover – a dydyn ni dal ddim yn gwybod beth sydd yn mynd i fod yn digwydd i borthladd Caergybi yn yr hirdymor.

“Oes, rŵan mae gynnon ni gytundeb ar yr ôl gytundeb, ac mae ’na drafod am beidio newid gormod rŵan yn sgil y broblem Gogledd Iwerddon, ond beth fydd yn digwydd wedi hynny? Beth fydd yn digwydd i Gaergybi? Bydd ffin galed rhwng Caergybi a Dulyn yn hollol niweidiol i Borthladd Caergybi.

“Rydym yn barod yn gweld llongau yn dod i gomisiwn sydd am wneud y croesiad o ‘Ogledd Iwerddon i Ewrop Gyfandirol yn uniongyrchol, ond mae angen bod yn glir – i ni, ein bod angen symud masnach rydd rhwng Caergybi a Dulyn, rhaid cael hyn er lles yr economi, a dydw i heb newid fy marn am hynny o gwbl.”