Rhaid rhannu adroddiad chwythu chwiben Betsi Cadwaladr – Rhun ap Iorwerth

Mae ACau Plaid yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithredu’n dryloyw ar adroddiad annibynnol i wasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd (TILL) yng Ngogledd Cymru.

Codwyd pryderon difrifol am nad yw’r adroddiad ymchwilio sydd yn ymwneud â llywodraethu clinigol a diogelwch cleifion yn yr adran TILL yn y Bwrdd Iechyd wedi rhannu’r canlyniadau gyda’r rhai a gododd y pryderon.

Dywed AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ac AC Arfon Sian Gwenllian y dylid cael tryloywder llawn. Codwyd materion amrywiol yn ymwneud â gwasanaethau yn gyntaf yn 2014 gan gyn-aelod o staff, a chyflwynwyd pryder arall trwy’r broses ‘Safe Haven’ yn 2016, gan arwain at ymchwiliad annibynnol.

Ysgrifennodd Mr ap Iorwerth at y Bwrdd Iechyd ar 31 Gorffennaf 2019 yn gofyn am rannu’r adroddiad a derbyniodd ymateb gan y Cadeirydd, Mark Polin, yn nodi y bydd cyfranwyr i’r ymchwiliad wedi cyfranu gan ddisgwyl bod hon yn broses gyfrinachol, a bod y Bwrdd yn bwriadu rhyddhau casgliad y swyddog adolygu a’i argymhellion ar gyfer gweithredu.

Mae’r cais Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu nad yw cyfranwyr wedi cael unrhyw gyfathrebiad efo’r Bwrdd Iechyd ers hynny, er i’r adroddiad gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2019.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae’n bwysig fod pob corff cyhoeddus yn gweithredu’n dryloyw pan godir pryderon difrifol, ac mae’n amlwg, ar y mater hwn, bod achwynwyr yn siomedig iawn gyda’r modd mae’r Bwrdd Iechyd wedi delio hefo’r mater hyd yn hyn.

“Os ydi’r Bwrdd yn aseinio aelod o staff i ffurfio set o argymhellion yn seiliedig ar yr adroddiad heb rannu ei gynnwys gyda’r rhai a gyflwynodd y cwynion – hyd yn oed fersiwn wedi ei olygu – sut y gall yr unigolion hynny fod yn sicr bod y materion a godwyd wedi cael eu trin yn agored ac yn dryloyw?”

Ychwanegodd Sian Gwenllian AC:

“Rydyn ni’n gwybod y gall plant sydd ddim yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw gyda’i cyfathrebu fod yn ioddef effeithiau gydol oes ar eu haddysg, cyflogaeth, iechyd meddwl, lles ac ati.

“Fel ACau, rydyn ni wedi dod ar draws nifer o achosion ble mae plant wedi aros yn hir am therapi, neu wedi profi therapi anaddas – un achos yn nodi aros hir am therapi yn Gymraeg, er enghraifft.

“Er ein bod yn falch bod yr ymchwiliad yma wedi’i gynnal, mae’n rhaid i ni edrych ar ei ganfyddiadau er mwyn symud y gwasanaeth ymlaen.”

Dywedodd cyn-aelod o staff o fewn gwasanaethau TILL yn BCUHB a gyflwynodd y pryderon fod yr adroddiad hwn ‘yn llawer rhy arwyddocaol i gael ei gladdu’, gan ychwanegu:

“Disgrifiodd yr ymchwilydd ei hun tra’n ysgrifennu’r adroddiad ei fod yn dasg enfawr. Cyfrannodd 32 o unigolion – llawer ohonynt mewn perygl sylweddol iddynt eu hunain – ynghylch pryder systemig gwasanaethau gwael i blant.

“Mae pryder sylweddol ynglŷn â gwastraff diofal adnoddau staff yn ogystal â diwylliant sy’n cael ei yrru gan dargedau ble roedd diddordebau rheolwyr yn drysu buddiannau plant a theuluoedd. Mae hyn yn fater llywodraethu clinigol.”