AC Môn i ymgyrchu am gefnogaeth bont rheilffordd newydd i Langefni

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi mynnu ei fod yn cefnogi Cyngor Sir Ynys Môn a Network Rail yn dilyn tynnu’r Bont Reilffordd yn Llangefni penwythnos diwethaf.

Yn dilyn tynnu’r bont ddydd Sul ar ôl i lori daro mewn iddi yn ddamweiniol, dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd o’n codi’r mater o gefnogi’r bont yn y Cynulliad wythnos nesa’ gyda’r gobaith o ddod a’r mater i sylw’r Prif Weinidog.

Yn aelod blaenllaw o’r ymgyrch i ail-agor y rheilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch a’i huno hi yn ôl gyda phrif reilffordd Network Rail, mae Mr ap Iorwerth yn mynnu tra byddai ailagor y brif lein yn bosibiliad hirdymor, byddai’n elwa economi’r ynys. Y nod yn y tymor byr ydi gosod pont newydd fydd yn gadael pob opsiwn ar gyfer ei defnyddio yn y dyfodol, yn agored.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Yn dilyn y digwyddiad diofal penwythnos diwethaf sydd wedi arwain at dynnu’r hen bont rheilffordd yn Llangefni, byddaf yn cefnogi Cyngor Sir Ynys Môn a Network Rail wrth iddynt archwilio’r posibiliadau i osod pont newydd yma a fydd yn gadael pob ffordd posibl yn agored i’w defnyddio yn y dyfodol.

“Rhaid i unrhyw bont newydd fod yn addas ar gyfer trenau, yn enwedig os oes posibilrwydd o ail-agor y llinell o Gaerwen i Amlwch yn y dyfodol, am y byddai rhedeg trenau ar y lein yn wych i economi Ynys Môn, ond mae hynny’n fater i’w drafod eto.

“Byddaf yn codi’r mater ac yn cyhoeddi fy nghefnogaeth am y bont newydd tra byddai yn y Cynulliad wythnos nesaf, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i weld pont newydd yn cael ei gosod, ac efallai edrych ar bosibiliadau eraill megis y ffordd i mewn i Llangefni fel rhan o’r broses hefyd.”