Rhun ap Iorwerth yn parhau i bwyso am Long Ymchwil Cenedlaethol

Mae’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, o Blaid Cymru wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i weithredu i sicrhau dyfodol y Llong Ymchwil Prince Madog, sydd ar hyn o bryd yn eiddo ar y cyd i Brifysgol Bangor a P&O Maritime.

Mae cytundeb ar waith rhwng Prifysgol Bangor a P & O ynglŷn â dyfodol y llong tan 2021, ond mae dyfodol y llong ar ôl hynny yn ansicr ar hyn o bryd, ac o ganlyniad, cynigiodd Mr ap Iorwerth y syniad o fabwysiadu’r Prince Madog fel Llong Ymchwil Cenedlaethol Cymru pan fydd y cytundeb presennol yn dod i ben.

Cyflwynodd Aelod Cynulliad Ynys Môn ddadl fer yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ar ddyfodol y llong ymchwil cyn toriad yr haf, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Phrifysgol Bangor a P & O yn ddiweddar o ganlyniad.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried y posibiliadau o’r llong yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil ar adegau yn y dyfodol, ond dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai’r llong fod yn ganolog i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil morol.

“Mewn dadl fer yn y Cynulliad cyn yr haf, cynigiais i Lywodraeth Cymru ddiogelu dyfodol y Prince Madog trwy ei mabwysiadu i ddod yn Llong Ymchwil Genedlaethol Cymru pan fydd contract Prifysgol Bangor â P & O yn dod i ben yn 2021.

“Drwy wneud hyn, byddai Prifysgol Bangor, ac yn wir, bob prifysgol a chorff ymchwil morol yng Nghymru – yn ogystal â Llywodraeth Cymru – yn gallu defnyddio adnodd o’r radd flaenaf i gynnal ymchwil hanfodol a fyddai yn fuddiol i ddyfodol ein cenedl.

“Nid mater o ddod o hyd i fuddion i’r ardal leol yn unig yw hyn, er bod hynny wrth gwrs yn bwysig iawn i mi fel cynrychiolydd Ynys Môn, ond rwyf wir yn credu y gallai fod budd cenedlaethol i sicrhau parhad y Llong Ymchwil.

“Gyda rhagwelediad ac uchelgais, gallai Llywodraeth Cymru wneud y Prince Madog yn ganolog i ymchwil morol oddi ar arfordir Cymru yn hytrach na rhywbeth y gellid ei ddefnyddio yn achlysurol. Mae ymchwil i fewn i’r adnoddau sydd gennym oddi ar ein harfordir yn hanfodol i ddyfodol economaidd ac amgylcheddol Cymru.”