Dylai’r Grid ystyried amgylchedd Môn a chwilio am ateb arall i beilonau, medd Rhun

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Grid Cenedlaethol fod ceblau tanddaearol am gael eu gosod yn lle peilonau yn Eryri, New Forest a’r Peak District, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud y dylai’r un ystyriaeth gael ei roi i amgylchedd Ynys Môn.

Dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r angen i sicrhau bod ein hamgylchedd yn cael ei warchod.  Trwy gyhoeddi’r buddsoddiadau yma mewn parciau cenedlaethol, mae’r Grid Cenedlaethol yn cyfaddef yn hollol iawn bod angen ystyried mwy na dim ond cost.  Efallai nad ydy Ynys Môn yn barc cenedlaethol, ond wrth i ni wynebu ail linell o beilonau ar draws yr ynys, mae’n rhaid cydnabod y niwed fyddai hynny’n ei wneud ac mae’n rhaid i’r Grid edrych eto ar sut i sicrhau y gallwn ni chwilio am ateb arall.

“Mewn ymateb i lythyr a anfonais i DECC, mae’r Arglwydd Bourne yn dweud ei fod yn hanfodol i gael y cydbwysedd iawn rhwng lliniaru effeithiau isadeiledd newydd a chostau, yn ogystal ag anghenion cymunedau lleol a’r wlad gyfan.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “O dan gynlluniau presennol y Grid Cenedlaethol ar gyfer ail res o beilonau, prin mae nhw’n ystyried ‘lliniaru effeithiau’ a ‘chymunedau lleol’ – cymunedau Môn.

“Mae’r Arglwydd Bourne hefyd yn cadarnhau mai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni yn hytrach na’r Grid Cenedlaethol fydd â’r gair olaf.  Mae hynny’n golygu fod yn rhaid i ni lobïo’n galed i sicrhau fod Llywodraeth Prydain yn gwrando ar bobl Ynys Môn.”