Dylai pobl sydd ddim eisiau neu ddim yn gallu mynd ar-lein ddim colli allan, medd AC

Dylai pobl sydd ddim yn gallu, neu ddim yn teimlo’n gyfforddus hefo mynd ar y we ddim colli allan ar gyngor a gwasnaethau hanfodol, medd Rhun ap Iorwerth AC.

Defnyddiodd Rhun ddadl aelod unigol yn y Senedd yr wythnos hon i dynnu sylw at y ffaith fod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig a bod hynny yn gallu arwain at eithrio digidol, a phobl yn colli allan ar fargeinion pan mae’n dod i siopa neu ddewis cyflenwyr trydan, nwy ayb.

Yn siarad yn y Senedd ddoe, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Nid ymwrthod a thechnoleg newydd ydw i. Dwi’n gyfforddus iawn fy hun yn defnyddio gwasanethau ar lein. A fel cymaint o bobl mae technoleg o’r math yma wedi gwneud fy mywyd i’n haws mewn llawer ffordd.

“Ond fel mae mwy a mwy o wasanaethau yn mynd ar lein – yn wasnaethau bancio, post, adnewyddu tocyn bws, llysoedd hyd yn oed, mae mwy o bobl mewn peryg o golli allan. A dwi’n gweld o waith achos yn fy swyddfa i bod hyn yn gallu bod yn boen meddwl go iawn i rai, yn enwedig pobl hŷn.”

Cyfeiriodd at yr enghraifft ddiweddar gan Lywodraeth Cymru o wneud i bobl orfod gwneud cais i adnewyddu eu tocynnau bws ar-lein. Penderfyniad annoeth, medd Rhun, yn enwedig o ystyried y grŵp targed ar gyfer hyn.

“Mi ddaeth hi’n amlwg yn fuan iawn o sgwrsio gydag etholwyr fod pobl yn poeni am orfod gwneud hyn ar lein a nifer ddim yn gwybod lle i ddechrau. Roeddan ni’n clywed straeon am bobl wedi colli cwsg yn poeni am sut oedda nhw’n mynd i adnewyddu eu tocyn, am eu bod nhw’n ddibynnol ar fysus.

“Fe wnaeth fy swyddfa i felly gynnig y byddem ni yn helpu pobl i wneud eu ceisiadau tocyn bws ar-lein ac ers mis Medi, mae fy swyddfa wedi delio efo dros 300 o geisiadau am gerdyn bws Newydd ar wefan Trafnidiaeth Cymru. 300 o bobl oedd unai ddim yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud y cais eu hunain, neu hefo dim mynediad at ryngrwyd heblaw trwy ein swyddfa ni.”

Cyfeiriodd hefyd at wasanaethau bancio ac am yr enghreifftiau niferus ar draws Cymru o ganghennau banc yn cau, gan orfodi pobl i wneud eu bancio ar-lein:

“Mi glywch chi fanc yn dweud weithiau ‘peidiwch poeni, mi geith pobl ddefnyddio’r gangen yn y dref nesaf’ ond yn cau honno’n ddiweddarach hefyd. Ar ben hynny, mi oedd gynnoch chi’r sefyllfa lle gwnaeth Barclays benderfynu na ddyla’u cwsmeriiad nhw allu tynnu’u harian allan yn Swyddfa’r Post chwaith – er o’n i’n falch ein bod ni wedi llwyddo i roi pwysau arnyn nhw i sgrapio’r syniad hwnnw. Ond mae o YN dangos diffyg ymrwymiad y banciau mawr i feddwl am eu cwsmeriaid, yn enwedig rhai hŷn, neu mewn ardaloedd gwledig.

“Dyna pam dwi’n galw ar i’r Llywodraeth roi pwysau ar y sector breifat i sicrhau nad ydy cwsmeriaid yn cael eu hynysu ac yn dod dan anfantais os mai dim ond gwasnaethau ar-lein sy’n cael ei gynnig.”

Yn ymateb dros y Llywodraeth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Er ein bod yn cydnabod fod pawb ddim yn gyffyrddus â’r rhyngrwyd, rydym am gefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cymryd rhan yn ddiogel mewn byd sy’n fwyfwy digidol. Felly, rydyn ni eisiau annog pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd, oherwydd rydyn ni’n gwybod bod y manteision yno, ond mae’n rhaid i ni ddarparu ar gyfer y bobl hynny nad ydyn nhw am ddefnyddio’r rhyngrwyd neu nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Felly, rydym yn ymdrechu i annog defnyddio’r rhyngrwyd: Mae menter arwyr digidol Cymunedau Digidol Cymru wedi hyfforddi dros 5,000 o wirfoddolwyr ifanc i helpu pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi gofal i fynd ar-lein, a phrosiect arloesol arall yw cynllun benthyciad tabled y Fro, sydd yn caniatáu i breswylwyr ledled Bro Morgannwg fenthyg iPads wedi’u galluogi ar y rhyngrwyd o lyfrgelloedd lleol bron mor hawdd ag y byddent yn ei wneud mewn llyfr.

“Rwy’n credu mai egwyddor allweddol hyn i gyd yw y dylem ddylunio gwasanaethau cyhoeddus o amgylch anghenion y defnyddiwr terfynol, ac yn nodweddiadol bydd hyn yn golygu gwasanaeth sy’n gweithio’n ddigidol ond sydd hefyd yn diwallu anghenion defnyddwyr terfynol sydd wedi’u gwahardd yn ddigidol, a dyna beth mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud.”

Wrth gloi’r ddadl dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae technoleg yn rasio ymlaen. Daw llawer iawn o dda o newid a datblygu technoleg, yn amlwg, ond mae yna rai risgiau hefyd. Un o’r risgiau hynny yw bod pobl, o bryd i’w gilydd, yn cael eu gadael ar ôl. Ni allwn adael i hynny ddigwydd. Hyderaf fod ein neges wedi’i chlywed yma heddiw a byddwn yn cadw llygad barcud ar gamau cadarnach y Llywodraeth ar hyn mewn misoedd a blynyddoedd i ddod.”