Dylai Grid a PINS barchu’r farn ddemocrataidd yng Nghymru pan yn ystyried peilonau, medd AC

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i’r Prif Weinidog i wneud yn siwr fod y rhai sy’n edrych ar gynlluniau Grid ar gyfer peilonau newydd ar draws Ynys Môn yn ymwybodol o’r bleidlais yn y Senedd o blaid tanddaearu ceblau.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, galwodd AC Môn ar Lywodraeth Cymru i wthio i’r eithaf ar yr Arolygiaeth Gynllunio Prydeinig i sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw barchu barn ddemocrataidd y Senedd.

Dywedodd hefyd y byddai hi’n sgandal pe na bai arian mae’r Grid wedi awgrymu allai fynd tuag at dwnel i gario ceblau ddim yn cael ei wario ar bont newydd yn lle hynny, gyda gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn tanddaearu.

Yn siarad yn y siambr, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’r cais gorchymyn caniatâd datblygu wedi cael ei gyflwyno bellach, ond dydy’r grid, ers dechrau’r broses yma, ddim wedi ildio dim i’r pwysau gen i, yr Aelod Seneddol, y cyngor nac, yn bwysicach fyth, unfrydiaeth trigolion Ynys Môn y dylid tanddaearu.

“A chofiwch fod y Senedd yma wedi pleidleisio dros yr egwyddor o ffafrio tanddaearu yn hytrach na gosod peilonau newydd. Mi ddywedasoch chi ym mis Ionawr y buasech chi’n atgoffa’r grid o hynny, felly, beth oedd eu hymateb nhw? Ond, yn bwysicach na hynny, a wnewch chi roi ymrwymiad i wthio i’r eithaf o Lywodraeth Cymru ar yr Arolygiaeth Gynllunio Prydeinig i sylweddoli bod barn ddemocrataidd y Senedd hon wedi cael ei datgan a bod yn rhaid iddyn nhw barchu hynny?

“Ymhellach, efo’r awgrym bellach y gallai twnnel i roi ceblau o dan y Fenai gostio cymaint â £300 miliwn, onid ydy hi’n amlwg y byddai hi’n sgandal pe na bai’r arian, neu ran ohono, yn cael ei wario ar bont newydd i gario gwifrau a cherbydau, efo gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn tanddaearu?”

Dywedodd y Prif Weinidog eu bod wedi gwneud y pwynt hwn i’r grid ei bod yn bwysig dros ben i ystyried pont newydd ar draws y Fenai er mwyn sicrhau bod y ceblau’n gallu mynd ar y bont honno, a hefyd bydd y grid yn gwybod beth yw barn y Cynulliad hwn a barn pobl leol. Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth ein bod ni angen datganiad clir i’r perwyl hwnnw.