“Diwrnod Amser i Siarad : Rhun ap Iorwerth yn rhannu canfyddiadau ymchwil Iechyd Meddwl”

Heddiw, mae Rhun ap Iorwerth AS wedi rhannu â Llywodraeth Cymru ganlyniadau arolwg iechyd meddwl a gynhaliodd yn ddiweddar ymhlith pobl ifanc. Canfuwyd bod llawer yn dal i fod yn rhy ofnus i siarad am eu problemau iechyd meddwl a mynd i geisio derbyn cymorth.
Ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2021, gofynnodd Rhun ap Iorwerth AS i bobl ifanc rannu eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd wedi lansio’r arolwg mewn dadl fer yn y Senedd ac yn ogystal â chael ei rannu ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, cafodd yr arolwg ei hyrwyddo gan Aelodau a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â phobl ifanc a/neu iechyd meddwl.
Ar ddiwrnod Amser I Siarad eleni, mae Rhun ap Iorwerth AS wedi cyhoeddi canlyniadau ymchwil yr arolwg ac wedi rhannu’r canfyddiadau â Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth – “Roeddwn i eisiau cael cipolwg ar brofiadau pobl ifanc a oedd yn ceisio cymorth gyda materion iechyd meddwl, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran i’m helpu i wneud hynny.”

 

 

Ychwanegodd – “Roeddwn i’n drist o ddarllen profiadau rhai unigolion o wasanaethau iechyd meddwl – nad ydyn nhw’n teimlo bod ganddyn nhw ddigon o amser i drafod, nad ydyn nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, neu eu bod yn cael eu trosglwyddo o un lle i’r llall neu’n ei gweld yn anodd dod o hyd i unrhyw ymateb o gwbl

“Teimlai’n briodol rhyddhau’r adroddiad hwn ar ‘Ddiwrnod Amser i Siarad’ gan fod ein canfyddiadau’n dangos pa mor bwysig yw hi i bobl beidio ag ofni siarad am faterion iechyd meddwl. A chyda chymaint yn dweud y bydden nhw fwyaf cyfforddus yn troi at ffrindiau neu deulu, mae’n bwysig ein bod ni i gyd â’r hyder i siarad am iechyd meddwl.”

Bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei rannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Rhun ap Iorwerth.