Dim syndod mai Môn ydy un o’r llefydd hapusaf i fyw!

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud nad yw’n synnu o gwbl fod arolwg diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod Ynys Môn yn un o’r llefydd hapusaf i fyw ynddyn nhw ym Mhrydain.  Dywedodd:

“Nid yw’n ddim syndod i mi mai Ynys Môn ydy un o’r llefydd hapusaf i fyw ynddyn nhw.  Does unman gwell i fyw a chewch chi ddim gwell pobl fel cymdogion. 

“Ar ben hynny, mae gennym ni amgylchedd naturiol hardd, treftadaeth unigryw, a digon o weithgareddau ar gael – o gaiacio môr i arforgampau, o golffio i gartio.  Ac rydym ni hefyd yn cynhyrchu peth o’r bwyd a diod gorau allwch chi eu cael.

“Beth sy’n bwysig ydy ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i wneud yn siwr fod digon o swyddi ym Môn fel bod ein pobl ifanc ni’n cael y cyfle i aros ar yr ynys ac ymgartrefu yma.”