Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud nad yw’n synnu o gwbl fod arolwg diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod Ynys Môn yn un o’r llefydd hapusaf i fyw ynddyn nhw ym Mhrydain. Dywedodd:
“Nid yw’n ddim syndod i mi mai Ynys Môn ydy un o’r llefydd hapusaf i fyw ynddyn nhw. Does unman gwell i fyw a chewch chi ddim gwell pobl fel cymdogion.
“Ar ben hynny, mae gennym ni amgylchedd naturiol hardd, treftadaeth unigryw, a digon o weithgareddau ar gael – o gaiacio môr i arforgampau, o golffio i gartio. Ac rydym ni hefyd yn cynhyrchu peth o’r bwyd a diod gorau allwch chi eu cael.
“Beth sy’n bwysig ydy ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i wneud yn siwr fod digon o swyddi ym Môn fel bod ein pobl ifanc ni’n cael y cyfle i aros ar yr ynys ac ymgartrefu yma.”