Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi galw am yr un math o frys i fynd i’r afael â’r amseroedd aros hirfaith i bobl ifanc sydd angen cymorth gyda’u iechyd meddwl a welir efo’r “roll-out” rhaglen frechu ar hyn o bryd.
Cafodd amseroedd aros apwyntiad cyntaf y Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (sCAMHS) eu cyhoeddi’r wythnos diwethaf. Maent yn dangos bod o leiaf chwarter y rheini cafodd eu cyfeirio i’r gwasanaeth wedi gorfod aros dros 4 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf yn ystod y pandemig.
Heddiw, fe heriodd Rhun ap Iorwerth y Prif Weinidog yn ystod Plenari’r Senedd, gan ofyn “Ydy hynny ddigon da?”
Adolygodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd effaith y pandemig ar bobl ifanc, gan adnabod y “missing middle” fel pryder yn benodol. Mae hyn yn cyfeirio at y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc sydd angen cymorth a chyngor iechyd meddwl, ond sydd o bosib ddim angen gwasanaethau arbenigol neu aciwt.
Rhoddodd Mr ap Iorwerth wahoddiad i Lywodraeth Cymru weithio efo Plaid Cymru ar eu cynnig am rwydwaith o ganolfannau galw i mewn ar draws Cymru fyddai’n cynnig cyngor a chymorth iechyd meddwl i bobl ifanc am ddim a chyfrinachol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, sy’n lefarydd Iechyd a Gofal i Blaid Cymru,
“Flwyddyn yn ôl fe gychwynodd ein hysgolion ail-agor wedi’r cyfnod clo cyntaf, a fe wyddom bod yr ynysu wedi effeithio’n fawr ar les a iechyd llawer o bobl ifanc.
“Ni ddisgynodd y nifer y pobl ifanc fu’n aros mwy na 4 wythnos am apwyntiad CAMHS yn îs na chwarter drwy’r flwyddyn. Yn syml, tydi hynny ddim digon da. Mae gennym raglen frechu brys ar waith, rhaglen ‘dal i fyny’ yn ein hysgolion, ond dim brys o ran ymateb i’r amseroedd aros hirfaith o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl – mae rhaid i hyn newid.
“Mae rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i’r “missing middle” o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth gyda’i hiechyd meddwl, ond sydd ddim digon gwael i fod angen triniaeth seiciatrig dwys hefyd. Mae Plaid Cymru wedi cynnig rhwydwaith o hybiau iechyd meddwl ar draws Cymru’n barod, a wedi estyn gwahoddiad i Lywodraeth Cymru weithio efo ni i wireddu’r cynnig hwn.”
DIWEDD.