Calendr adfent o fath gwahanol i helpu’r rhai mewn angen

Ar ddiwrnod cyntaf mis Rhagfyr, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn rhoi’r cyfle i bobl Môn gael calendr adfent o fath gwahanol eleni.

Mae’r gaeaf yn gallu bod yn adeg arbennig o anodd i deuluoedd incwm isel, ac o ganlyniad, mae’r defnydd o fanciau bwyd yn gallu cynyddu. Mae swyddfa Rhun ap Iorwerth felly wedi penderfynu cael Calendr Adfent Tu Chwith eleni, ac yn rhoi’r cynnig i etholwyr ymuno â nhw.

Yn hytrach na derbyn darn o siocled bob dydd yn ystod mis Rhagfyr fel sydd yn arferol, syniad y Calendr Adfent Tu Chwith yw bod teulu neu swyddfa yn rhoi eitem o fwyd mewn basged bob dydd, ac yn cyflwyno’r fasged nwyddau i fanc bwyd cyn y Nadolig.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n drist ofnadwy fod cymaint o bobl yn dibynnu ar fanciau bwyd, yn enwedig felly yn ystod amser o’r flwyddyn sydd i fod yn llawn hapusrwydd i blant a theuluoedd.

“Er mwyn ceisio helpu banciau bwyd sydd angen cefnogaeth ychwanegol ar amser mor brysur, byddwn ni fel swyddfa yn llenwi basged a’i rannu gyda banc bwyd lleol cyn y Nadolig. Mae croeso i bobl gymryd rhan eu hunain a dod a basged lawn i ni cyn Rhagfyr 20fed, neu i adael cyfraniadau i’n basged ni yn ein swyddfa yn Llangefni os ydynt yn dymuno.

“Mae’r Calendr Adfent Tu Chwith yn ffordd hawdd i bobl gyfrannu i’w banc bwyd lleol.”
 
Bydd Swyddfa Rhun ap Iorwerth yn Stryd yr Eglwys, Llangefni yn derbyn nwyddau i fanciau bwyd cyn yr 20fed o Ragfyr.